Y Trallwng, Powys
Mae Grug Evans yn ferch 24 mlwydd oed o Sir Drefaldwyn a raddiodd o Brifysgol Bangor yn 2023 gyda 2:1 mewn Busnes a Marchnata. Mae hi bellach yn gweithio fel Ymgynghorydd Sir Gâr a Sir Forgannwg gyda'r NFU yn cynorthwyo aelodau gydag ystod eang o faterion yn ymwneud ag amaeth, gan gynnwys apeliadau, ymholiadau am gynlluniau, cyfarfodydd Sir, ymweliadau â ffermydd ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, tra hefyd yn cyfrannu at weithgarwch marchnata a chyfathrebu pan fo angen.
Cyn ymuno â'r NFU, bu Grug Evans yn gweithio gyda Cyswllt Ffermio, gan gynorthwyo gyda phrosiectau technegol, digwyddiadau lleol, grwpiau trafod a meithrin cysylltiadau cadarn â ffermwyr a busnesau gwledig yn y broses.
Rhan allweddol o fusnes y teulu yw Cutiau Cwm Canada, menter arallgyfeirio a sefydlwyd yn 2023 sy'n cynnig llety mewn cwt bugail ar y fferm. Yn 2026, mae'r teulu'n adeiladu ail gwt bugail ac yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i rannu'r daith, hyrwyddo'r busnes ac i ddangos harddwch cefn gwlad Cymru. Mae Grug Evans yn awyddus i barhau i ddatblygu'r busnes yn greadigol, ehangu ei gyrhaeddiad ac archwilio cynhyrchion, gwasanaethau a chydweithrediadau newydd a fydd yn ei helpu i dyfu i fod yn fenter dwristiaeth wledig arbennig ac arloesol.