BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Tyfu busnes cymdeithasol

Gall tyfu eich busnes cymdeithasol fod yn ffordd wych o wella cynaliadwyedd ac effaith gymdeithasol.

Ystyriwch y canlynol fel rhan o’ch strategaeth twf:

Cynllun twf busnes cymdeithasol

Wrth gynllunio i dyfu eich menter gymdeithasol, dechreuwch drwy bennu p’un ai twf yw’r ffordd orau o weithredu. Gallai tyfu er mwyn tyfu fod yn arwydd o wyro oddi wrth y genhadaeth yn hytrach na cham tuag at gyflawni eich cenhadaeth gymdeithasol.

I wneud yn siŵr y bydd twf yn gwella perfformiad busnes mewn gwirionedd, edrychwch ar ein canllaw i gynllunio busnes ar gyfer busnes cymdeithasol.

Gallai twf arwain at sefyllfa risg uchel hefyd, lle mae amrywiadau mewn proffidioldeb neu lif arian yn llethu eich cyfalaf - senario sy’n cael ei adnabod fel 'gorfasnachu'. Ond os yw’n cynhyrchu elw neu’n gwneud eich tîm yn gryfach, gallai twf wella’r busnes.

Os ydych chi wedi pennu bod twf yn ffordd ymarferol o weithredu ar gyfer eich busnes cymdeithasol, mae nifer o ffyrdd y gallech fynd o’i chwmpas. Gallwch ehangu eich marchnad, yr hyn rydych yn ei gynnig neu eich ardal ddaearyddol. Gallai twf hefyd olygu ymuno â busnesau eraill trwy gydweithio neu uno.

Ystyriwch y llwybrau i dwf a ddangosir isod naill ai’n unigol neu wedi’u cyfuno: 


Ffyrdd o dyfu eich menter gymdeithasol:

Cyflawnir twf trwy ehangu, trwy ymestyn yr hyn rydych yn ei gynnig i farchnad ehangach.

Mae tyfu eich busnes cymdeithasol trwy arallgyfeirio yn golygu ehangu ystod y nwyddau neu’r gwasanaethau rydych chi’n eu cynnig.

Mae gwaith consortia yn strategaeth dwf sy’n cynnwys creu tîm o sefydliadau sy’n gallu cyfuno eu cyllidebau, eu sgiliau a’u hadnoddau.

Gellir cyflawni twf busnes cymdeithasol hefyd trwy rannu’r sefydliad yn fentrau cymdeithasol llai a mwy effeithlon.

Gall dyfu eich menter gymdeithasol hefyd trwy gyfuno sefydliadau presennol sydd â chenhadaeth gymdeithasol debyg.

Mae rhyddfreinio cymdeithasol yn darparu pecyn busnes cymdeithasol y mae modd ei ailadrodd y gellir ei ddefnyddio mewn lleoliadau a chyd-destunau eraill.

Mae’r adran hon yn archwilio’r llwybrau unigryw ar gyfer twf sydd ar gael i fusnesau a berchnogir gan eu cyflogeion.

Enghreifftiau o fusnesau cymdeithasol ledled Cymru yr ydym wedi eu helpu i dyfu a thrawsnewid.

Ymgeisiwch nawr am gymorth

Yn barod i dyfu eich busnes cymdeithasol? Ymgeisiwch nawr trwy Cwmpas i gael mynediad at gymorth ac adnoddau teilwredig sy’n gwneud gwahaniaeth.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.