BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Amdanom ni

Eisiau cychwyn busnes sy’n gwneud gwahaniaeth? Gallwn ni eich helpu chi.

Caiff Busnes Cymdeithasol Cymru ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gyflwyno gan gonsortiwm o asiantaethau cymorth arbenigol sy’n meddu ar wybodaeth, arbenigedd a phrofiad o gefnogi’r sector busnes cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r consortiwm yn cynnwys Cwmpas, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru (DTA), Cwmnïau Cymdeithasol Cymru (SFW), UnLtd a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).

Rydym yn credu y gellir gwneud busnes yn wahanol. Rydym yn gwybod, trwy fenter gymdeithasol, cwmnïau cydweithredol a busnesau a berchnogir gan gyflogeion, ei bod yn bosibl creu newid cadarnhaol a meithrin cymunedau cryfach a chyfoethocach.

Mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn cynnwys tîm o gynghorwyr busnes arbenigol sy’n canolbwyntio ar sefydlu a chefnogi mentrau cymdeithasol. Rydym ni wedi bod yn cynghori mentrau cymdeithasol er 1982, ac yn y cyfnod hwnnw, mae wedi helpu sefydlu cannoedd o fusnesau newydd. Caiff ein cymorth ei ariannu’n llawn sy’n golygu eich bod yn cael arweiniad yn rhad ac am ddim ar bob cam o’r ffordd.


Consortia partner

Rydym yn gweithio mewn cymunedau ledled Cymru i helpu i greu economi decach a gwyrddach a chymdeithas fwy cyfartal.

Mae Cwmnïau Cymdeithasol Cymru yn cefnogi unigolion a sefydliadau i ddatblygu mentrau sy' rhoi tegwch wrth galon eu harfer cyflogaeth. Rydyn ni eisiau Cymru ffyniannus lle mae gan bob person fynediad at waith, a chyfleoedd lle maen nhw'n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cynnwys, a ble y

CGGC yw’r corff cymorth cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru, a’i bwrpas yw galluogi mudiadau gwirfoddol i wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.

Gweithio gyda’n gilydd ar gyfer dyfodol mwy disglair i Gymru.

Mae mwy o bobl nag erioed yn camu ymlaen i fynd i'r afael â phroblemau cymdeithas. A allech chi fod yn un ohonyn nhw?


Dilynwch Cwmpas ar-lein

Ymunwch â Cwmpas ar LinkedIn

Ymunwch â Cwmpas ar Facebook

Ymunwch â Cwmpas ar X

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyrau e-bost gan Cwmpas

Ymgeisiwch nawr am gymorth

Yn barod i dyfu eich busnes cymdeithasol? Ymgeisiwch nawr trwy Cwmpas i gael mynediad at gymorth ac adnoddau teilwredig sy’n gwneud gwahaniaeth.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.