Menter gymdeithasol
Busnes ac amcanion cymdeithasol, yn bennaf. Caiff elw ei ailfuddsoddi yn y busnes neu yn y gymuned yn bennaf, yn hytrach nag uchafu elw ar gyfer cyfranddalwyr a pherchnogion. Mae Menter Gymunedol hefyd yn fath o gwmni menter gymdeithasol sy’n cael ei berchnogi a’i gynnal gan gymuned ddaearyddol neu gymuned â buddiant ar y cyd.
Busnes cydweithredol
Cymdeithas ymreolaethol o bobl sydd wedi eu huno mewn menter dan reolaeth a berchnogir ar y cyd ac yn ddemocrataidd (diffiniad Y Gynghrair Gydweithredol Ryngwladol). Maent yn gweithio’n wirfoddol i ddiwallu anghenion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol cyffredin. Gellir rhannu busnes cydweithredol yn llawer o is-gategorïau, sef:
- Caiff cwmnïau cydweithredol gweithwyr eu perchnogi a’u cynnal gan eu gweithwyr
- Caiff cwmnïau cydweithredol tai eu perchnogi a’u cynnal gan eu tenantiaid
- Caiff cwmnïau cydweithredol defnyddwyr eu perchnogi a’u cynnal gan eu cwsmeriaid
- Caiff consortia cydweithredol eu perchnogi a’u cynnal gan fusnesau eraill sy’n defnyddio gwasanaethau’r fenter
- Gall cwmnïau cydweithredol â rhanddeiliaid lluosog fod yn gyfuniad o unrhyw un o’r uchod, neu bob un ohonynt
Mathau eraill o gwmnïau mentrau cymdeithasol
- Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol – sefydliad a grëwyd i ddal tir yn ased at ddefnydd cymunedol.
- Undeb Credyd – sefydliad ariannol nid-er-elw sy’n cael ei berchnogi a’i weithredu gan ei aelodau.
- Ymddiriedolaeth Ddatblygu – menter yn y gymuned sy’n sicrhau ac yn rheoli asedau cymunedol.
- Cwmni Cymdeithasol – busnes sydd wedi ymrwymo i greu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant ar gyfer pobl sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur.
Pan fyddwch chi’n hyderus fod gennych chi gynnig busnes hyfyw a’r bobl sydd eu hangen i’w gyflawni, rydych chi mewn sefyllfa i gychwyn eich busnes cymdeithasol.
Y cam nesaf yw dechrau rhoi eich cynllun busnes at ei gilydd. Bydd y prif gynllun hwn yn amlinellu strwythur a llywodraethiant eich menter yn glir a chryno, tra’n arddangos y diben cymdeithasol neu’r adenillion cymdeithasol hefyd fel nodwedd ychwanegol.
Bydd eich cynllun busnes hefyd yn cynnwys amcanestyniadau ariannol ac opsiynau arfaethedig ar gyfer cyllid i ddechrau busnes, yn ogystal ag amlinelliad o sut rydych chi’n bwriadu rheoli prosiectau a chysylltiadau â chyflogeion.
Wedi i chi gwblhau eich cynllun busnes, byddwch chi’n barod i gynnal busnes cymdeithasol.
Ymgeisiwch nawr am gymorth
Yn barod i dyfu eich busnes cymdeithasol? Ymgeisiwch nawr trwy Cwmpas i gael mynediad at gymorth ac adnoddau teilwredig sy’n gwneud gwahaniaeth.