news and blogs Archives

1621 canlyniadau

Os ydych chi’n teithio dramor ar ôl 1 Ionawr 2021 at ddibenion busnes, byddwch angen bod yn ymwybodol o rai newidiadau i reolau os ydych chi’n dod â nwyddau masnachol i mewn neu allan o’r DU. Mae’n rhaid i chi gwblhau datganiad wrth ddod i mewn i’r DU neu adael y DU os ydych chi’n cludo nwyddau i’w gwerthu neu eu defnyddio gan fusnes: gyda gwerth nad yw’n uwch na £1,500 (€1,000 ar gyfer Gogledd...
Cystadleuaeth genedlaethol yw Solve for Tomorrow sy’n galluogi’r genhedlaeth nesaf o arloeswyr y DU i newid y byd er gwell. Nid oes angen cymwysterau. Nid oes angen arbenigedd. Dim ond syniad sy’n defnyddio technoleg a dyhead i wneud gwahaniaeth. Os ydych chi rhwng 16 a 25 a bod gennych chi syniad technoleg rhagorol ar gyfer cynnyrch, gwasanaeth neu ap technoleg newydd a allai wneud gwahaniaeth go iawn i’r bobl a’r cymunedau yn yr angen mwyaf...
Mae Cyllid Allforio’r DU (UKEF) wedi lansio cynllun gwarant newydd a fydd yn darparu cyfalaf gweithio i allforwyr bach a chanolig i’w helpu i ddod dros effaith Covid-19. O dan y Cyfleuster Allforio Cyffredinol gall allforwyr wneud cais am gyllid gan bum banc mwyaf y DU gyda chefnogaeth gwarant UKEF. Bydd hyn yn galluogi allforwyr i ryddhau cyfalaf gweithio y gellir ei ddefnyddio ar gyfer costau cysylltiedig ag allforio ac er mwyn cynyddu eu gweithredoedd...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £110m o gymorth ariannol ychwanegol i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan y cyfyngiadau diweddaraf, a ddaeth i rym ddydd Sul 20 Rhagfyr 2020. Bydd busnesau lletygarwch, manwerthu dianghenraid, twristiaeth, hamdden a busnesau y gadwyn gyflenwi yn gymwys ar gyfer y cymorth ariannol. Bydd rhagor o fanylion am y cyllid yn cael eu cyhoeddi ar wefan Busnes Cymru maes o law. I ddarllen y cyhoeddiad ewch i wefan Llyw.Cymru.
Lansio’r UK Trader Scheme i gynorthwyobusnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon: Bydd y New UK Trader Scheme (UKTS) yn helpu i sicrhau nad yw masnachwyr yn talu tariffau am symud nwyddau i mewn i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr, pan fo’r nwyddau hynny’n parhau yn nhiriogaeth tollau’r DU. Am ragor o wybodaeth am yr hyn y mae angen i fusnesau ei wneud cyn symud nwyddau am y tro cyntaf ar ôl...
Mae’r cynllun ffyrlo wedi’i ymestyn a bydd Llywodraeth y DU yn parhau i dalu 80% o gyflogau gweithwyr am oriau heb eu gweithio tan ddiwedd Ebrill 2021. Bydd ond yn ofynnol i gyflogwyr dalu cyflogau, Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn ar gyfer yr oriau a weithiwyd; a chyfraniadau Yswiriant Gwladol a phensiwn ar gyfer oriau na weithiwyd. Gall busnesau ddefnyddio’r cynlluniau benthyciadau canlynol tan ddiwedd Mawrth 2021 hefyd: Cynllun Benthyciadau Adfer Cynllun Benthyciadau Tarfu...
Mae cyfres fideo wedi’i chyhoeddi sy’n egluro’r hyn sydd angen i fusnesau ei wneud i baratoi ar gyfer 1 Ionawr 2021. Mae’r fideos yn trafod yr hyn sydd angen i fusnesau ei wybod am: allforion a mewnforion tollau codau nwyddau nwyddau rheoledig I wylio’r fideos, ewch i wefan GOV.UK. Beth am fynd i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru sy’n rhoi cyngor ac arweiniad pwysig ar gyfer busnesau sy’n paratoi ar gyfer y pontio Ewropeaidd.
Gall sefydliadau cymunedol ac elusennau cofrestredig yng Nghymru wneud cais nawr am gyfran o £1.5 miliwn. Mae’r cyllid ar gael drwy Gronfa Cefnogi Syniadau Gwych - Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae’n rhaid i brosiectau fod yn werth o leiaf £10,001 ac nid oes unrhyw uchafswm grant wedi ei nodi. Mae grantiau gwobrwyo Cefnogi Syniadau Gwych yn cefnogi syniadau arloesol a phwysig yn strategol sy’n annog newid cymdeithasol cadarnhaol yng Nghymru. Croesewir ceisiadau sy’n cyflawni’r...
Mae’r Cynllun Grant Tollau wedi’i sefydlu i helpu busnesau i baratoi ar gyfer trefniadau tollau newydd o 1 Ionawr 2021. Mae hyn yn cynnwys cefnogi busnesau sy’n masnachu gyda’r UE i gynnal hyfforddiant i wella eu dealltwriaeth o ofynion tollau a gweithio gyda chyfryngwyr tollau. Mae hefyd yn helpu cyfryngwyr tollau i wella eu gallu i gwblhau datganiadau tollau a chyflymu twf y sector er mwyn ymateb i’r cynnydd mewn galw o 1 Ionawr 2021...
Bydd Innovate UK, sy’n rhan o UK Research and Innovation, yn buddsoddi hyd at £2 filiwn o’r Rhaglen Pecynnu Plastig Cynaliadwy Doeth (SSPP) ar gyfer prosiectau cyfnod cynnar, a gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais. Mae’r her SSPP yn ceisio sefydlu’r DU fel arloeswr blaenllaw mewn pecynnu plastig cynaliadwy ar gyfer cynhyrchion defnyddwyr. Ei nod yw sicrhau twf glanach ledled y gadwyn gyflenwi, gyda gostyngiad sylweddol mewn gwastraff plastig sy’n cyrraedd...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.