news and blogs Archives

1611 canlyniadau

Rheolau Tarddiad: Gwiriwch fod eich nwyddau'n cydymffurfio â masnachu heb dariff gyda'r UE: Gyda chytundeb masnach mewn lle, gall busnesau'r DU fasnachu heb dariffau gyda'r UE o 1 Ionawr os yw eu cynhyrchion yn bodloni Rheolau Tarddiad y cytunwyd arnynt. Mae angen i fasnachwyr y DU wirio a yw eu cynhyrchion yn cydymffurfio a sut i brofi eu tarddiad. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK. Newidiadau i awdurdodiadau allforwyr cymeradwy o 1 Ionawr...
Mae llywodraeth San Steffan wedi atal tariffau ar gynhyrchion meddygol sy’n cael eu defnyddio yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws, gan leihau costau’r eitemau hanfodol hyn i sefydliadau ledled y DU. Bydd y mesurau newydd, sy’n sicrhau na fydd tariffau’n ddyledus ar fewnforio nwyddau gan gynnwys masgiau wyneb, menig a chyfarpar amddiffynnol eraill, yn dod i rym ar 1 Ionawr 2021. Mae’r rhain yn adeiladu ar y rhyddhad tariffau gydol 2020, ar gael i...
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi cyhoeddi cod ymarfer newydd ar rannu data, sy’n darparu canllawiau clir i sefydliadau a busnesau ar sut i rannu data yn gyfreithlon. Mae gan yr ICO adnoddau a chymorth i fusnesau hefyd, sy’n cynnwys: chwalu coelion am rannu data gwybodaeth sylfaenol y cod rhannu data cwestiynau cyffredin ar rannu data astudiaethau achos rhestr wirio rhannu data templedi ffurflen gwneud cais i rannu data a ffurflen penderfyniadau rhannu data personol...
Dod â nwyddau i Brydain Fawr o du allan i’r DU o 1 Ionawr 2021: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi ar y lwfansau sy’n golygu y gallwch ddod â swm penodol o nwyddau i Brydain Fawr o du allan i’r DU at eich defnydd eich hun heb orfod talu toll. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK. Gohirio tollau a chwotâu tariffau o 1 Ionawr 2021: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi ar ohirio tollau a chwotâu...
Allforio anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid i’r DU o 1 Ionawr: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi ar gyfer partneriaid masnach sydd eisiau gwneud cais i allforio neu sydd wedi’u cymeradwyo i allforio anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid i’r DU. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK. Allforio neu symud bwyd a phorthiant risg uchel nad yw’n dod o anifeiliaid i’r UE neu Ogledd Iwerddon o 1 Ionawr 2021: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi ar allforio neu symud bwyd...
Bydd gwrthlif dros dro yn cael ei roi yn ei le ar yr A55 rhwng cyffyrdd 2 to 4 o 28 Rhagfyr 2020 fel rhan o gynlluniau wrth gefn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl, gan barhau i ganiatáu mynediad i’r porthladd yn ogystal â chaniatáu i’r gymuned leol symud o gwmpas yn ddidrafferth. Bydd gweithredwyr fferïau yn ei gwneud yn ofynnol i gwsmeriaid sy’n cludo llwythi sy’n teithio i...
Ydych chi’n fusnes bwyd gyda bwyd dros ben? Mae FareShare yn ailddosbarthu bwyd dros ben i elusennau sy’n ei droi’n brydau. Gall eich busnes elwa ar weithio gyda FareShare. Yn ogystal â hybu enw da busnesau o safbwynt cynaliadwyedd, mae ailddosbarthu bwyd dros ben i elusennau hefyd yn helpu i ymgysylltu â chwsmeriaid a staff. Mae bwyd dros ben ffres yn golygu y gall elusennau gynnig diet iach, amrywiol i’w cleientiaid, a gellir ailfuddsoddi’r arian...
Bydd cyfnod Pontio'r DU yn dod i ben ar 1 Ionawr 2021. Mae angen i fusnesau sicrhau eu bod yn barod ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. Darllenwch isod y 10 Cam Gweithredu gorau ar gyfer BBaCh: Gofalwch fod gennych rif EORI Prydain Fawr, os nad oes un gennych eto, gallwch gofrestru am ddim drwy fynd i www.gov.uk/eori Penderfynwch sut rydych chi'n mynd i wneud datganiadau tollau, i gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk...
Cofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau Os ydych chi’n gludwr ac yn symud nwyddau drwy borthladd yn y DU sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth i gael nwyddau drwy’r tollau. A, ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK . Edrychwch sut i symud nwyddau drwy borthladdoedd sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau Os ydych chi’n fasnachwr, yn gludwr neu’n gariwr ac yn defnyddio porthladd...
Mae llywodraeth San Steffan wedi adolygu telerau’r cynllun, ac wedi cyhoeddi y bydd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (y Cynllun) yn parhau ar y lefel gyfredol o 80% o’r cyflogau arferol am yr oriau na chânt eu gweithio, ac yn cael ei ymestyn tan ddiwedd Ebrill 2021. Gallwch wneud hawliadau mis Rhagfyr nawr Gallwch gyflwyno eich hawliadau ar gyfer cyfnodau mis Rhagfyr nawr, a rhaid gwneud hyn erbyn 14 Ionawr. Os oes...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.