Heddiw (dydd Mawrth 23 Mehefin 2026), mae'r Gweinidog dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd, wedi nodi ei flaenoriaethau ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd, natur a chymunedau gwledig ledled Cymru. Wrth siarad yn y Senedd, cadarnhaodd y Gweinidog y byddai dros £10 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y Gronfa Rhwydweithiau Natur, a fydd yn adfer bioamrywiaeth, yn creu swyddi ac yn atgyfnerthu cysylltiadau rhwng cymunedau a'u hamgylchedd naturiol. Cyhoeddodd hefyd fod gwaith eisoes...