Mae'n gweithredu fel prif ddosbarthwr llawer o linellau cynhyrchion yn Ewrop a daw cryn dipyn o'i refeniw o allforion i'r Undeb Ewropeaidd. Yn ddiweddar, cafodd y cwmni gyfle i gaffael busnes cystadleuydd a oedd yn golygu bod ganddo'r potensial i ddyblu ei refeniw i £6m y flwyddyn.

Mae'r Rhaglen Cyflymu Twf wedi darparu seilwaith cymorth cyfannol o amgylch y busnes i'w helpu i oresgyn yr heriau o ran twf sy'n gysylltiedig â dyblu refeniw o fewn blwyddyn. Ymhlith y meysydd lle mae'r Rhaglen Cyflymu Twf wedi rhoi cymorth mae rheoli prosesau, gan gynnwys ISO9001, adeiladu tîm a recriwtio, strategaeth a chynllunio busnes, seilwaith TG a rheolaeth ariannol. Mae Rheolwr-Gyfarwyddwr Something Different wedi canmol y cymorth a gafwyd, y mae'n cyfaddef ei fod yn fwy nag yr oedd yn ei ddisgwyl. O ganlyniad i ymyrraeth y RhCT, mae 17 o swyddi newydd wedi'u creu.