Mae Virtual Ward Technologies (VWT) ar flaen y gad o ran trawsnewid gofal iechyd, gan hwyluso’r broses bontio o ofal ysbyty i reoli iechyd yn y cartref. Mae ei blatfform arloesol yn integreiddio technoleg synhwyrydd uwch, cyfrifiadura cwmwl, ac arbenigedd meddygol i ddarparu ymyrraeth gynnar a gofal personol i gleifion yng nghysur eu cartrefi eu hunain.

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (BWAGP) wedi cefnogi twf VWT, gan helpu i drawsnewid ei weledigaeth uchelgeisiol yn ddatrysiad y gellir ei dyfu, ac sy'n barod i'r farchnad.

Mae'r Athro Rhys Thomas, sylfaenydd Virtual Ward Technologies, yn rhannu canfyddiadau i stori'r cwmni ac yn egluro sut mae cymorth BWAGP wedi bod yn allweddol yn ei lwyddiant.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth i chi ddechrau Virtual Ward Technologies?

Yn ystod y pandemig, heriodd Llywodraeth Cymru ni i ddylunio peiriant anadlu i Gymru. Wrth ymateb i'r her honno, gwnaethom ni nodi angen mwy o faint: technoleg sy'n galluogi cleifion i gael eu monitro'n ddiogel gartref. Byddai hyn yn lleddfu pwysau ar ysbytai ac yn helpu i atal heintiau rhag lledaenu. Wedi'n hysbrydoli gan hyn, fe wnaethom ddatblygu'r Ward Rithwir – sef cysyniad arloesol sy'n trawsnewid darpariaeth gofal iechyd.

Mae ein platfform yn cyflogi synwyryddion datblygedig y gellir eu gwisgo megis Fitbit i fonitro metrigau iechyd hanfodol, gan gynnwys cyfradd curiad y galon, cyfradd resbiradol, lefelau straen a gweithgaredd corfforol. Dadansoddir y data hwn gan ddefnyddio algorithmau soffistigedig i nodi risgiau posibl a hwyluso ymyriadau cynnar. Enw ein hap yw Llaw-yn-Llaw, ac mae ein meddalwedd amlieithog ar gael mewn gwahanol ieithoedd, yn amrywio o’r Gymraeg i Maori. 

Mae'r Ward Rithwir yn grymuso pobl i reoli eu hiechyd ac yn sicrhau cymorth amserol a phersonol gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol pan fo angen. Gellir defnyddio VWT mewn gofal iechyd, gofal cymdeithasol a lles yn y gweithle, gan wella canlyniadau cleifion a lleihau costau'r GIG.

Pa heriau rydych chi wedi'u hwynebu, a sut mae BWAGP wedi eich cefnogi chi?

Ein her fwyaf oedd bod mor bell ar y blaen i'r farchnad. Roedd llawer yn amau ein datrysiadau, felly gwnaethom fuddsoddi'n helaeth mewn Ymchwil a Datblygu i adeiladu tystiolaeth a hygrededd. Roedd ein Rheolwr Cysylltiadau BWAGP yn ein cysylltu ag arbenigwyr a'n harweiniodd trwy benderfyniadau strategol, o fireinio ein gwefan i bennu’r prisiau gorau. 

Mae eu cyngor wedi bod yn hanfodol i ni. Mae cymorth BWAGP wedi ein galluogi ni i drosglwyddo o fusnes newydd ymchwil a datblygu dwys i fusnes y gellir ei dyfu gyda chynnyrch sy'n barod i'r farchnad.

Pa wahaniaeth mae BWAGP wedi'i wneud i'ch busnes chi? 

Mae BWAGP wedi ein helpu ni i lywio'r daith gymhleth o arloesi i fasnacheiddio. Cynorthwyodd y rhaglen ni i ddatblygu gwefan broffesiynol, a oedd yn hanfodol wrth i ni baratoi i farchnata ein system. Mae'r wefan hon wedi sefydlu hygrededd ac yn arddangos ein hatebion yn effeithiol. 

Mae eu mentora arbenigol wedi bod yn amhrisiadwy wrth lywio heriau gweithredol a strategol. Er enghraifft, sicrhaodd eu canllawiau ar strategaeth brisio ein bod ni’n cydbwyso denu cleientiaid â thwf cynhaliol. 

Mae tyfu busnes yn debyg i chwarae gwyddbwyll. Mae'n rhaid i chi feddwl ddau neu dri cham ymlaen yn barhaus. Mae dod o hyd i bartneriaid strategol sy'n credu yn eich busnes chi ac sy'n cynnig cymorth yn amhrisiadwy yn y camau cynnar. Mae BWAGP wedi rhoi'r cymorth hanfodol hwnnw i mi, ac fel arweinydd, rwyf wedi bod yn hynod ddiolchgar am eu mewnbwn arbenigol.

Pa gerrig milltir ydych chi'n fwyaf balch ohonyn nhw?

Mae sicrhau ein cytundeb £500,000 cyntaf yn garreg filltir gyffrous, gan ein bod ni wedi gweithio'n galed i gyrraedd y man hwn. Rydyn ni hefyd yn falch bod prawf bod ein system ynsicrhau canlyniadau mewn meysydd mor amrywiol â gofal cymdeithasol, triniaeth gordewdra plant, a gofal canser. Bellach rydyn ni’n archwilio ei defnyddio mewn meddygaeth chwaraeon. Cadwch lygad!

Virtual Ward Technologies

Beth sydd nesaf ar gyfer VWT?

Rydyn ni'n barod am dwf sylweddol. Rydyn ni’n bwriadu ehangu ein tîm yng Nghymru, gan ddefnyddio dylanwad partneriaethau â phrifysgolion a Llywodraeth Cymru. Rydyn ni’n yn datblygu sawl cynnyrch newydd ac yn archwilio marchnadoedd allforio i yrru cynaliadwyedd tymor hir. Gyda chymorth parhaus BWAGP, mae gennym ni uchelgeisiau beiddgar i chwyldroi gofal iechyd yn fyd-eang.

Pa gyngor byddech chi'n ei roi i entrepreneuriaid sy'n ceisio goresgyn heriau a chynyddu eu busnesau?

  • Canolbwyntiwch ar ddatrys problemau go iawn sy'n sicrhau gwerth ymarferol ac economaidd
  • Rhannwch heriau mawr yn gamau llai, hydrin a defnyddio anffodion yn gyfleoedd i ddysgu a gwella
  • Datblygwch rwydwaith cryf o fentoriaid a chynghorwyr i ddarparu arweiniad a chymorth

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am Virtual Ward Technologies.

Share this page

Print this page