Mae Bearhug, busnes a leolir ym Mhont-y-pŵl sy’n arbenigo mewn cymhorthion bambŵ i’r cymalau a llewys cyhyrau, wedi bachu sefyllfa arbenigol ym marchnad anafiadau chwaraeon ac ymadfer. Wedi’i seilio yn 2016, mae Bearhug yn defnyddio technoleg bambŵ arloesol, sy’n enwog am ei briodweddau gwrthlidiol, i gynhyrchu cymhorthion ansawdd uchel sydd wedi’u dylunio i helpu pawb, ni waeth beth fo’u hoedran neu gefndir, i symud ac ymadfer yn hyderus o anaf.

Mae stori Bearhug yn cwmpasu gwydnwch a hyblygrwydd, gan amlygu effaith cefnogaeth fusnes strategol, bwrpasol. Trwy arloesi a phenderfyniad, llwyddodd y cwmni i oroesi heriau ariannol yn ystod y pandemig. Gyda chymorth gwerthfawr gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru(BWAGP), adfywiodd tîm Bearhug eu busnes a gosod sylfaen llwyddiant at y dyfodol.

Yma, mae’r sylfaenydd Rhys George yn rhannu stori’r busnes, gan gynnwys sut gwnaethant oresgyn heriau a’i weledigaeth am y dyfodol.


Bearhug

Sut mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (BWAGP) wedi cefnogi Bearhug?
Bu’r gefnogaeth rydym ni wedi’i chael trwy’r rhaglen yn drawsnewidiol. Yn ystod pandemig COVID-19, roeddem ni’n wynebu heriau digynsail a fygythiodd ddyfodol y busnes. Roedd y cyfnodau clo yn ddraen ar ein cronfeydd wrth gefn, a’n gorfododd i ysgwyddo dyled am y tro cyntaf trwy fenthyciadau adfer.

Helpodd ein Rheolwyr Cysylltiadau a hyrwyddwyr i ni ailstrwythuro’r cwmni, optimeiddio’n gwefan, a gwella cipio data i fireinio’n brand ac ail-ennyn diddordeb cwsmeriaid. Trwy eu hyrwyddiant, roedd modd i ni ymdopi â phenderfyniadau hollbwysig, fel gwella’n sianeli gwerthiannau ar-lein a chynllunio strategaethau codi arian.

Bu’r canlyniadau yn eithriadol. Mae ein refeniw o werthiannau ar-lein yn dal i godi, ac mae cydweithrediadau ag athletwyr o’r radd flaenaf a sefydliadau chwaraeon wedi gwella ymwybyddiaeth o’r brand yn sylweddol. Roedd yr arweiniad gan ein Rheolwr Cysylltiadau a hyrwyddwyr arbenigol yn hanfodol i’n helpu i lywio cyfnod heriol a dod oddi yno’n gryfach byth.

Dwedwch wrthym am yr ysbrydoliaeth tu ôl i Bearhug.
Dechreuodd Bearhug o frwydrau personol ag anafiadau hirdymor. Daeth fy ngyrfa chwaraeon i ben yn 19 oed ar ôl dau anaf difrifol i’m pengliniau. Blynyddoedd wedyn wrth i’m cyd-sylfaenwyr a minnau gael anawsterau gyda’n poenau ein hunain, sylweddolom ni nad oedd y farchnad am gymhorthion cymalau wedi esblygu ers degawdau.

Yn benderfynol o wneud yn well, manteisiom ni ar ein profiadau ein hun i ddatblygu ystod unigryw o gynhyrchion yn y bwlch yma. Heddiw, mae ein hystod yn cynnwys 12 cynnyrch seiliedig ar fambŵ sydd wedi’u dylunio i wella llif gwaed, lleihau llid a chyflymu ymadfer. Mae cynaliadwyedd yn ganolog i’n hethos gan sicrhau bod ein cynhyrchion o fudd i bobl ac i’r blaned.

Bearhug

Beth fu cyflawniadau pennaf Bearhug yn y blynyddoedd diwethaf?
Mae’r ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn hanfodol bwysig. Codom ni £56,000 trwy ymgyrch cyllido torfol, a adawodd i ni ddyblu ein hystod cynhyrchion a dod yn bartner gyda chyrff fel Undeb Rygbi Cymru.

Cyflawniad mawr oedd lansio’r ‘Lumbear,’ ein cymorth i’r cefn isaf a ddatblygwyd gyda Ffisiotherapydd Undeb Rygbi Cymru John Miles ac adborth gan athletwyr o fri. Wedi’i dreialu yn ystod ymgyrch Chwe Gwlad 2024, roedd y galw am y prototeipiau’n uwch o lawer na’r cyflenwad.

Rydym ni wedi ehangu’n tîm hefyd, gan hurio pedwar aelod newydd a chroesawu dau recriwt ifanc trwy gynllun Twf Swyddi Cymru.

Pa heriau ydych chi wedi’u hwynebu, a sut gwnaeth BWAGP eich helpu i’w goresgyn?
Pandemig COVID-19 oedd ein her fwyaf. Cyn 2020, roedd Bearhug yn hunan-ariannu trwy fuddsoddiadau personol a chwaer-gwmni. Roeddem ni newydd lwyddo i fantoli’r gyllideb ac yn barod i dyfu pan ddaeth y cyfnodau clo.

Helpodd cefnogaeth BWAGP i ni sefydlogi’r busnes yn ystod y cyfnod cythryblus hwn. Trwy eu harweiniad ar ailstrwythuro ac optimeiddio gweithrediadau, roeddem ni mewn sefyllfa dda am dwf hirdymor. Chwaraeodd cyflwyniad strategaethau data gwell a brandio ran allweddol mewn ail-ennyn diddordeb cwsmeriaid.

Beth yw’ch eiliad mwyaf balch mewn busnes?
Daw ein heiliadau mwyaf balch o weld cynhyrchion Bearhug yn grymuso pobl i oresgyn anafiadau. Mae ein hymrwymiad i gynaliadwyedd ac ansawdd yn beth ystyrlon i’n cwsmeriaid ac wedi ein helpu i feithrin ymddiriedaeth yn ein brand.

Hefyd, mae tyfu’n tîm wedi bod yn hynod o foddhaus. Mae gweld pobl yn credu yn ein gweledigaeth a chyfrannu at ein taith yn foddhaol iawn.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i entrepreneuriaid eraill?

  1. Deall cyfleoedd cyllido: Dewch yn gyfarwydd â chynlluniau fel Cynllun Buddsoddi Cychwynnol mewn Mentrau/ Cynlluniau Buddsoddi mewn Mentrau a cheisiwch gyngor arbenigwyr
  2. Croesawu presenoldeb corfforol: Ewch i ddigwyddiadau ac arddangosfeydd i gasglu adborth gwerthfawr
  3. Addasu ac arloesi: Defnyddiwch farn a phrofiad defnyddwyr i fireinio ac ehangu’ch cynhyrchion
  4. Defnyddio rhwydweithiau cymorth: Mae rhaglenni fel BWAGP yn cynnig arbenigedd ac adnoddau amhrisiadwy
  5. Adeiladu tîm cryf: Mynnwch bobl o’ch cwmpas sy’n rhannu eich gweledigaeth a’ch gwerthoedd.


Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am Bearhug

Share this page

Print this page