Mae Cyflymydd Busnesau Newydd Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn cefnogi entrepreneuriaid i ddatblygu eu busnesau. Dros 12 wythnos, mae cyfranogwyr yn derbyn mentoriaeth arbenigol, gweithdai busnes wedi’u teilwra a chyfleoedd rhwydweithio er mwyn troi eu syniadau yn fusnesau a allai ehangu’n gyflym.

Ymhlith cyfranogwyr mwyaf trawiadol eleni oedd Dr Emma Williams, Dadansoddwr Ymddygiad Ardystiedig y Bwrdd a Sylfaenydd EmWill Care. Gyda mwy na 27 mlynedd o brofiad yn y sector gofal, mae Emma wedi creu cynnyrch sy’n cyfuno gwyddor ymddygiadol mewn gofal dementia, gan gynnig offer ymarferol a hyfforddiant i roddwyr gofal i wella bywydau iddynt eu hunain ac i’r sawl maent yn eu cefnogi.

Siaradom ag Emma i archwilio sut mae’r rhaglen Cyflymu Busnesau Newydd wedi siapio ei busnes hi.
 

EmWill Care


Allwch chi esbonio’r syniad tu ôl i EmWill Care?
Mae EmWill Care yn cefnogi rhoddwyr gofal a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sy’n gweithio gyda phobl â dementia. Mae ein cynnyrch allweddol yn cyfuno egwyddorion dadansoddi ymddygiadol â strategaethau ymarferol i helpu rhoddwyr gofal i deimlo’n hyderus yn eu rolau ac i gynnig gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. 

Pa heriau wnaethoch chi eu hwynebu cyn ymuno â chynllun Cyflymu Busnesau Newydd Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (BWAGP), a sut wnaethoch chi eu goresgyn?
Yr her fwyaf oedd trosi fy ngweledigaeth yn fodel busnes a allai ehangu’n gyflym. Er fy mod yn hyderus am effaith gwyddor ymddygiadol mewn gofal dementia, nid oedd gennyf yr wybodaeth fusnes i dyfu’n effeithlon.

Gwnaeth y rhaglen Cyflymu Busnesau Newydd fy helpu i fireinio fy strategaeth a’m ffocws wrth ymchwilio i fodelau refeniw cynaliadwy.

Rhoddodd y rhaglen yr hyder i mi chwilio am gyllid, gwneud penderfyniadau dewr a gosod sylfaen gadarn i fy musnes dyfu.

Beth a’ch ysbrydolodd i ddechrau’ch busnes?
Dechreuodd fy nhaith gyda gwyddor ymddygiadol pan gafodd fy mab ddiagnosis o ddiabetes math 1 yn ddwy flwydd oed. Yn benderfynol o wella ansawdd ei fywyd, defnyddiais egwyddorion ymddygiadol i hyfforddi ein ci, Jess, i ganfod lefelau glwcos gwaed uchel ac isel. Daeth Jess yn gi cymorth cofrestredig, gan weddnewid sut oeddwn yn cefnogi fy mab a gwella ei fywyd. Gwnaeth hyn sbarduno f’angerdd am wyddor ymddygiadol a’m hysbrydoli i ddilyn astudiaethau uwch, a arweiniodd at PhD mewn Gwyddorau Ymddygiadol. Sylweddolais fod y galw am wybodaeth ymddygiadol arbenigol yn llawer uwch nag argaeledd gweithwyr proffesiynol hyfforddedig.

Trwy EmWill Care, fy nod yw rhannu f’arbenigedd yn ehangach a sicrhau bod rhoddwyr gofal yn derbyn yr offer, yr hyfforddiant, a’r wybodaeth mae arnynt eu hangen i deimlo eu bod wedi’u grymuso.

Sut gwnaeth y rhaglen Cyflymu Busnesau Newydd fireinio’ch syniad busnes neu’ch strategaeth?
Gwnaeth y rhaglen fy helpu i ddadansoddi potensial fy syniad o sawl safbwynt, gan sicrhau bod y busnes yn cael effaith o bwys ac y gallai ehangu’n gyflym. 

Darganfyddiad mawr oedd cydnabod gwerth unigryw cyfuno gwyddor ymddygiadol â gofal dementia. Fel un o ddim ond ryw 80 o ddadansoddwyr ymddygiad ledled y byd sy’n arbenigo yn y boblogaeth hon, defnyddiais f’arbenigedd prin i osod EmWill Care mewn sefyllfa i gynnig ateb chwyldroadol yn y sector, a roddodd yr hyder i mi dargedu marchnad fyd-eang.

Y newid pennaf fu sut rwy’n cyfathrebu gwerth EmWill Care. Rwyf bellach yn cyfleu’n effeithiol sut mae gwyddor ymddygiadol yn ymdrin â’r heriau gwirioneddol mewn gofal dementia, sydd wedi cryfhau diddordeb gan randdeiliaid a buddsoddwyr.

Beth sy’n eich symbylu chi fel sylfaenydd, a beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am ddechrau busnes?
Rwy’n cael fy symbylu gan y cyfle i greu newid gwirioneddol, parhaus mewn gofal dementia. Mae’r heriau mae rhoddwyr gofal yn eu hwynebu yn gallu bod yn llethol, ac mae gwybod y gall EmWill Care gynnig atebion ymarferol, ar sail tystiolaeth, yn anhygoel o foddhaus.

Yr hyn rwy’n ei fwynhau fwyaf yw’r ymdeimlad o bosibilrwydd. Mae pob dydd yn dod â chyfleoedd a heriau newydd i arloesi, dysgu a thyfu. Y wobr fwyaf yw gweld effaith gadarnhaol gwyddor ymddygiadol ar roddwyr gofal a phobl sy’n byw gyda dementia.

Beth yw’r wers fwyaf rydych wedi’i dysgu o’r Rhaglen Cyflymu Busnesau Newydd?
Pwysigrwydd hyblygrwydd a gwydnwch. Mae gweledigaeth eglur yn hanfodol, ond bod yn agored i adborth ac addasu i heriau sy’n gyrru llwyddiant.

Beth yw’ch cynlluniau am ddyfodol EmWill Care?
Fy mwriad yw sicrhau buddsoddiad i gyflymu twf a datblygiad cynnyrch. Byddaf yn ehangu fy ngwasanaethau hyfforddiant i gyrraedd mwy o roddwyr gofal ac yn lansio ein cynnyrch blaenllaw arloesol, sy’n manteisio ar wyddor ymddygiadol i wella canlyniadau gofal dementia.

Fy nod yw bod yn arweinydd byd-eang mewn gofal dementia ar sail tystiolaeth, a mynd yn bartner i ddarparwyr gofal iechyd er mwyn sefydlu gwyddor ymddygiadol mewn arferion bob dydd trwy gyfrwng atebion technoleg clyfar.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n dechrau eu busnes eu hun?
Byddwch yn barod am heriau ac ansicrwydd, ond peidiwch â cholli golwg o’ch angerdd a’ch pwrpas. Adeiladwch rwydwaith cymorth cryf, ceisiwch fentoriaeth, a chadwch eich ymrwymiad i’ch cenhadaeth.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am Emwill Care. 

Share this page

Print this page