Mae cymunedau ledled y byd yn wynebu materion cynyddol argyfyngus sy’n ymwneud â phrinder dŵr a seilwaith cynaliadwy wrth i'r newid yn yr hinsawdd gyflymu.

Yn y cyd-destun hwn lle mae llawer yn y fantol, mae Deploy Tech, a elwir yn "IKEA seilwaith concrit pecyn fflat," wedi dod i'r amlwg yn chwyldroadol yn y lle hwn. Mae wedi arloesi dull ymarferol, y gellir ei dyfu o storio dŵr a darparu atebion seilwaith. 

Deploy Tech

Gellir cludo Tanciau Dŵr 14R ac InstaSlabs Deploy Tech (wedi'u llunio o ffabrig concrit arloesol o'r enw Cynfas Concrit), mewn pecynnau fflat, eu hydradu ar y safle a'u caledu mewn dim ond 24 awr. Mae'r model unigryw hwn yn cynnig dewis amgen cynaliadwy i goncrit confensiynol ac mae'n addasadwy i ymateb i drychinebau ac anghenion seilwaith dyddiol mewn ardaloedd sydd heb wasanaeth digonol.

Mae atebion Deploy Tech yn arbennig o addas ar gyfer cymunedau sydd â mynediad cyfyngedig at seilwaith sefydlog, gan gynnwys y rhai y mae trychinebau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd yn effeithio arnyn nhw. Dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae Deploy Tech wedi cyrraedd dros 135,000 o bobl mewn wyth gwlad, gan ddarparu storfeydd dŵr hanfodol ac amcangyfrifir eu bod nhw wedi arbed tua 124,000 kg mewn allyriadau CO₂ trwy eu heffaith gymdeithasol a'u rhaglenni cynaliadwyedd.

A sefydliadau blaenllaw megis UNICEF, Rhaglen Bwyd y Byd a Phrifysgol Caergrawnt yn ymddiried yn Deploy Tech, maen nhw’n cael effaith fesuradwy ar heriau dŵr a seilwaith byd-eang.

Gyda chymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (BWAGP), mae Deploy Tech mewn sefyllfa dda i ehangu ei effaith. Yn yr astudiaeth achos hon, mae'r cyd-sylfaenydd Beren Kayali, yn rhannu'r stori y tu ôl i Deploy Tech gyda'i heriau a rôl hanfodol BWAGP wrth hyrwyddo ei genhadaeth.

Dwedwch wrthym am Deploy Tech.
Ganwyd Deploy Tech o ymrwymiad i wella mynediad dŵr trwy atebion seilwaith arloesol. Dechreuodd ein taith ni pan ddechreuodd ein cyd-sylfaenydd Paul, a ysbrydolwyd gan brofiad cynnar yn dyst i brinder dŵr mewn cymunedau gwledig, archwilio datrysiadau storio dŵr.

Dechreuodd angerdd Paul am ddŵr glân pan oedd yn wyth mlwydd oed. Aeth gyda'i dad i ddathlu system ddŵr newydd yr oedd wedi helpu i'w hadeiladu mewn cymuned wledig. Taniodd y profiad o weld y gwahaniaeth a wnaeth ym mywydau pobl ymrwymiad gydol oes a arweiniodd at astudio dros 170 o systemau dŵr ledled De America, ac yn y pen draw, at ddilyn gradd Meistr mewn Peirianneg Dylunio Arloesi yng Ngholeg Imperial Llundain. 

Dyna lle gwnaethon ni gyfarfod. Roedd fy nghefndir cryf mewn peirianneg fecanyddol a gwaith arloesol a gydnabuwyd gan British Airways yn fy ngwneud i’n bartner delfrydol yn nhaith Deploy Tech. Gyda'n gilydd, fe wnaethom ni sefydlu Deploy Tech i ddod ag atebion seilwaith cynaliadwy i'r byd.

Mae ein Tanciau Dŵr 14R ac InstaSlabs yn darparu ar gyfer sectorau lluosog, gan ddarparu adnoddau hanfodol megis storio dŵr cludadwy ar gyfer rhyddhad trychinebau ac ateb sylfaen cynaliadwy ar gyfer siediau gardd a phodiau swyddfa. Mae'r tanciau'n cyrraedd mewn pecynnau fflat, yn cael eu chwyddo ar y safle ac yn caledu o fewn 24 awr, gan eu gwneud yn hynod effeithlon ac yn dda i'r amgylchedd.

Beth yw’r achlysuron sydd wedi rhoi’r balchder mwyaf i chi mewn busnes hyd yn hyn?
Cawsom ni un o'n hachlysuron gorau ym mis Chwefror 2023, pan wnaethom ni ymuno â'r ymdrechion rhyddhad yn dilyn y daeargrynfeydd dinistriol yn Nhwrci. Trwy fenter ariannu torfol, rhoddon ni dri Thanc Dŵr 14R a chyflenwi offer hanfodol arall i gefnogi anghenion dŵr, glanweithdra a hylendid goroeswyr. 

Roedd gweld ein cynnyrch yn chwarae rhan hanfodol mewn argyfwng dyngarol yn brofiad i’n gwyleiddio ac yn dilysu ein hymdrechion. Dangosodd y gall ein datrysiadau ni gael effaith sylweddol.

Pa heriau ydych chi wedi'u hwynebu mewn busnes?
Heb os, roedd dechrau Deploy Tech yn ystod y pandemig yn heriol. Gwnaethom ni wynebu rhwystrau sylweddol o ran cyllido, cynhyrchu a deall anghenion ein marchnadoedd. Yn gynnar, roedd datblygu ein llinell gynhyrchu ochr yn ochr â'r cynnyrch yn ddwys o ran adnoddau ac roedd angen llawer o arbrofi a methu. Gohiriodd disgwyl i'n cynnyrch ni fod yn "berffaith" cyn estyn allan i gwsmeriaid, ein gallu i gasglu adborth gwerthfawr a mireinio ein gwaith o wneud i’n cynnyrch weddu i’r farchnad.

Hefyd, gwelsom ni fod adeiladu'r tîm cywir yn fwy cymhleth na'r disgwyl. Roedd ein penodiadau cyntaf ni’n raddedigion diweddar yn bennaf, ond ers hynny rydyn ni wedi dysgu pwysigrwydd tîm cytbwys gyda lefelau amrywiol o ran profiad.

Pe byddech chi'n dechrau eto, beth fyddech chi'n ei wneud yn wahanol?
Wrth edrych yn ôl, byddem ni wedi mynd at sawl maes yn wahanol. Yn gyntaf, byddem ni wedi cydbwyso ein penodiadau i gynnwys graddedigion diweddar a'r rhai sydd ag ychydig flynyddoedd o brofiad yn y diwydiant. Byddai hyn wedi ein galluogi ni i ddatblygu diwylliant rhannu gwybodaeth mewnol lle gallai gweithwyr proffesiynol profiadol fentora aelodau newydd o'r tîm.

Byddem ni hefyd yn canolbwyntio’n fwy ar gyd-fynd â'r farchnad gynnyrch o'r cychwyn cyntaf, gan ymgysylltu â darpar gwsmeriaid yn gynnar i ddeall eu hanghenion yn well yn hytrach nag aros nes bod y cynnyrch wedi'i ddatblygu'n llawn. Rydyn ni wedi dysgu bod adborth cynnar yn amhrisiadwy ac yn gallu arbed amser ac adnoddau yn y tymor hir.

Sut mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes chi?
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (BWAGP) wedi bod yn bartner amhrisiadwy yn ein twf ni. Rhoddodd grant SMARTCymru gymorth ariannol, gan ein galluogi ni i fynd â'n cynnyrch i gam arddangos, a mireinio ei barodrwydd technegol. Fe wnaethom ni hefyd elwa o gymorth allforio, gan ein helpu ni i ehangu ein heffaith y tu hwnt i'r DU.

Mae BWAGP wedi bod yn ganolog wrth fynd i'r afael â'n heriau penodi a'n hanghenion twf cynhyrchu. Dan arweiniad y rhaglen, rydyn ni wedi rheoli ein strategaethau ariannu yn fwy effeithiol ac wedi datblygu model twf cynaliadwy sy'n cyd-fynd â'n gweledigaeth. Mae'r cymorth strwythuredig hwn gan reolwr perthnasoedd sy'n deall ein busnes ni wedi bod yn allweddol wrth lywio tirwedd gymhleth busnes newydd sy'n tyfu'n gyflym.

Deploy Tech

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i entrepreneuriaid eraill?

  1. Nid yw amlygrwydd, ar ei ben ei hun, yn sbarduno llwyddiant. Gwnewch yn siŵr bod eich amlygrwydd yn dod o gynulleidfaoedd perthnasol sydd wedi'u targedu. Fel arall, gall arwain at ddilysu camarweiniol a disgwyliadau afrealistig.
  2. Adeiladu tîm sy'n poeni'n fawr am y genhadaeth: Penodwch bobl sy'n wirioneddol angerddol am yr hyn maen nhw'n ei wneud. Gall yr ymrwymiad cyffredin hwn wneud byd o wahaniaeth.
  3. Ymddiriedwch yn eich greddf: Os nad yw cyfle neu bartneriaeth yn teimlo fel "iawn" clir, mae'n well gwrthod. Canolbwyntiwch ar yr hyn sy'n cyd-fynd â'ch nodau a'ch gwerthoedd.


Cliciwch yma i ddysgu rhagor am Deploy Tech.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru

Share this page

Print this page