Mae Mallows Beverages, cwmni diod premiwm yn Nhonyrefail, wedi ennill enw da am ansawdd ac arloesi yn y sector bwyd a diod cystadleuol. Mae'r cwmni wedi tyfu'n gyflym, gan sicrhau cydnabyddiaeth y diwydiant ac ehangu ei farchnad fyd-eang. Y tu ôl i'r llwyddiant hwn mae partneriaeth strategol â Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (BWAGP), sy'n darparu cymorth wedi'i deilwra mewn cynllunio ariannol, ehangu'r farchnad ryngwladol, a strategaeth weithrediadol.
Yma, mae'r cyd-sylfaenydd Andy Mallows yn rhannu stori'r cwmni ac yn egluro rôl BWAGP yn ei lwyddiant.
Dwedwch rywbeth wrthym am Mallows Beverages.
Sefydlais i Mallows Beverages gyda fy mab Rhys. Ein cenhadaeth ni yw darparu diodydd arloesol o ansawdd uchel wrth bwysleisio cynaliadwyedd. Rydyn ni’n arbenigo mewn crefftio diodydd premiwm, gan gynnwys opsiynau alcoholig a di-alcohol, wedi'u teilwra ar gyfer dewisiadau defnyddwyr modern.
Mae ein model busnes yn canolbwyntio ar gyflenwi manwerthwyr mawr, lleoliadau lletygarwch a marchnadoedd allforio. Dechreuodd yn weithrediad bach ond mae wedi datblygu'n gyflym i fod yn chwaraewr sylweddol yn y sector. Rydyn ni’n ymfalchïo mai ni yw'r potelwr contract mwyaf ar gyfer gwirodydd yng Nghymru ac yn ddiweddar cawsom ni ein hwythnos werthu gyntaf gwerth £1 miliwn.
Mae ein gallu i addasu i dueddiadau'r farchnad, cynnal ansawdd ac arloesi wedi bod yn ganolog i'n twf.
Sut mae BWAGP wedi helpu Mallows Beverages i gyflawni ei nodau?
Mae'r BWAGP wedi gweddnewid popeth i ni. Fe wnaethon nhw ein helpu ni i sicrhau cyllid i fuddsoddi mewn technoleg newydd a symleiddio ein prosesau cynhyrchu ni, a oedd yn hanfodol wrth i ni dyfu.
Mae'r galw rydyn ni wedi'i greu yn golygu y bu rhaid i ni dyfu ein tîm 233% y llynedd, sef lefel o dwf sy'n creu heriau. Mae cyngor arbenigol BWAGP ar reoli'r gweithlu wedi bod yn amhrisiadwy o ran sicrhau ein bod ni’n cynnwys talent yn effeithiol ac yn cynnal diwylliant cwmni cydlynol yng nghanol twf cyflym.
Mae eu harbenigwyr cynaliadwyedd nhw wedi sicrhau bod ein twf ni’n cyd-fynd â'n nodau amgylcheddol. Mae'r canllawiau a gawsom ni wedi bod yn amhrisiadwy wrth lywio heriau a manteisio ar gyfleoedd. Byddwn i’n argymell y rhaglen i unrhyw fusnes uchelgeisiol sy'n ceisio tyfu.
Pa heriau oedd Mallows Beverages yn eu hwynebu yn ystod eich taith tyfu?
Mae tyfu ar y cyflymder rydyn ni wedi ei wneud yn creu heriau. Roedd cydbwyso twf cyflym â chynnal ansawdd yn rhwystr sylweddol i’w oresgyn. Er enghraifft, roedd potelu 1 miliwn o unedau mewn wythnos yn dipyn o gamp weithrediadol, ond roedd angen cynllunio manwl gywir a buddsoddi mewn atebion cynhyrchu cyflymder uchel.
Cefnogodd BWAGP ni yn ystod y cyfnod pontio hwn, gan ein helpu ni i nodi'r buddsoddiadau cywir a gwneud y gorau o'n prosesau cynhyrchu heb gyfaddawdu ar ansawdd na chynaliadwyedd.
Yn 2024, buddsoddodd Banc Datblygu Cymru, drwy Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, saith ffigur i'n helpu ni i gynyddu capasiti, creu cyfleoedd gwaith, a phrynu peiriannau newydd.
Beth yw rhai o'ch eiliadau mwyaf balch chi fel busnes?
Roedd 2024 yn flwyddyn bwysig i ni. Roedd ein hwythnos werthu gyntaf i gyrraedd £1 miliwn a photelu 1 miliwn o unedau mewn dim ond saith diwrnod yn gerrig milltir pwysig.
Mae arallgyfeirio ein portffolio gyda dros 200 o gynhyrchion newydd ac ehangu i dair marchnad allforio newydd yn bethau i fod yn falch ohonyn nhw. Mae'r holl lwyddiannau hyn yn adlewyrchu ymroddiad ein tîm a chymorth BWAGP.
Beth sy'n gosod Mallows Beverages ar wahân yn y sector bwyd a diod?
Ein hymrwymiad ni i arloesi a chynaliadwyedd yw’r peth mawr sy’n ein gwahaniaethu ni. Rydyn ni wedi buddsoddi'n helaeth mewn lleihau ein hôl troed amgylcheddol trwy gyflwyno dulliau cynhyrchu effeithlon o ran ynni.
Ar yr un pryd, rydyn ni wedi canolbwyntio ar ddatblygu cynhyrchion sy'n bodloni gofynion newidiol defnyddwyr, fel opsiynau siwgr isel a figan.
Pa rôl mae cynaliadwyedd yn ei chwarae yn eich strategaeth tyfu?
Mae cynaliadwyedd yn ganolog i bopeth rydyn ni’n ei wneud ac yn dylanwadu ar bob penderfyniad a wnawn ni. Yn 2024, gwnaethom ni gymryd camau sylweddol i uwchraddio ein cyfleusterau ni, gan ganolbwyntio ar leihau gwastraff, defnyddio ynni, a'n heffaith amgylcheddol gyffredinol. Roedd yr uwchraddiadau hyn yn cynnwys gweithredu systemau cynhyrchu effeithlon o ran ynni i leihau'r adnoddau a ddefnyddir.
Roedd arbenigwyr cynaliadwyedd BWAGP yn hanfodol wrth lywio'r gwelliannau hyn, gan sicrhau eu bod nhw’n cyd-fynd â'n nodau amgylcheddol hirdymor ac yn gwella ein heffeithlonrwydd gweithrediadol. I ni, nid mater o gyrraedd targedau yn unig yw cynaliadwyedd. Rydyn ni am greu etifeddiaeth gadarnhaol ar gyfer y dyfodol.
Pa gyngor byddech chi'n ei roi i ddarpar entrepreneuriaid?
- Byddwch yn hyderus a dilynwch eich breuddwydion a'ch gweledigaeth
- Cynlluniwch, paratowch a datblygwch eich stori fusnes a’ch pecynnau buddsoddwyr
- Cystadlwch am wobrau, hyd yn oed os ydych chi'n meddwl na fyddwch chi'n ennill – gallan nhw fod yn ffordd wych o ennill cydnabyddiaeth a rhoi hwb i'ch proffil
Cliciwch yma i ddysgu mwy am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.
Cliciwch yma i ddysgu mwy am Mallows Beverages.