Un o gryfderau gwych busnesau cymdeithasol yw eu bod yn ymgysylltu â pherchnogaeth ac yn dylanwadu ar ystod ehangach a nifer fwy o randdeiliaid ac aelodau na’r rhan fwyaf o fusnesau o faint tebyg.
Y berthynas rhwng menter gymdeithasol a’i rhanddeiliaid
Mae ymgysylltu ag aelodau yn dda i randdeiliaid gan ei fod yn rhoi ffurf o ‘bleidlais’ iddynt. Mae hefyd yn dda i’r busnes cymdeithasol os yw’n llwyddo i baratoi’r rhanddeiliaid hynny i ymgymryd â’r cyfrifoldebau cyfatebol a gwneud cyfraniad cadarnhaol at broffil a pherfformiad. Gall y berthynas rhwng y rhanddeiliaid a’r busnes cymdeithasol fod yn dyngedfennol.
I’r perwyl hwn, mae busnesau cymdeithasol effeithiol yn bwriadu cynnal a gwella’n barhaus ymgysylltiad cadarnhaol eu haelodau a’u rhanddeiliaid, gan osod nod i’w grymuso i gyfrannu at lywodraethiant da, gan sicrhau ystod o fewnbwn cyn gwneud penderfyniadau strategol. Mae hyn yn helpu cael y penderfyniadau hynny’n gywir ac yn golygu pan gaiff y penderfyniadau hynny eu rhoi ar waith, bod awdurdod y sefydliad cyfan y tu ôl iddynt.
Mae hyn, yn ei dro, yn golygu bod cymorth yn haws i’w drefnu a’i droi’n negeseuon hyrwyddo cryf a chyson. Bydd yr union ffaith fod y sefydliad yn cael ei weld fel democratiaeth effeithiol sy’n dilyn strategaeth fusnes gydlynus yn ei gwneud yn haws recriwtio mwy o gefnogwyr.
Sut ydych chi’n ymgysylltu â rhanddeiliaid ac aelodau?
Efallai mai’r man cychwyn yw sicrhau yr eir i’r afael â’r rhwystrau amlwg rhag ymgysylltu. Os yw’r strategaeth bresennol ar gyfer ymgysylltu yn cynnwys gwahoddiadau achlysurol i gyfarfodydd hir a diflas, efallai bod angen ailfeddwl ar raddfa fawr.
Dylid adolygu’r strategaeth mynediad i sicrhau ei bod yn delio â mynediad nid yn unig at wasanaethau a chyflogaeth, ond hefyd at gyfranogiad o ran aelodaeth a llywodraethiant. Yn yr un modd, gellir adolygu’r Polisi Cyfle Cyfartal a’i weithredu o ran rhwystrau seicolegol a diwylliannol.
Gellir adolygu’r ddogfen lywodraethu ei hun yn rheolaidd i wneud yn siŵr ei bod yn 'dal i fyny' ag esblygiad y sefydliad ac yn caniatáu ar gyfer cynrychiolaeth briodol o’r grwpiau rhanddeiliaid y mae’n ceisio ymgysylltu â nhw a’r mecanweithiau y gallai eu caniatáu ar gyfer sefydlu grwpiau cyfeirio, prosesau ymgynghori a fforymau.
Heriau llywodraethiant ar gyfer mentrau cymdeithasol
Achos mwyaf mynych difreinio a dieithrwch yw diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth. Mae’r strategaeth gyfathrebu yn allweddol yma. Mae cyfathrebu’n ymwneud yn rhannol â rhannu negeseuon cadarnhaol ond mae hefyd ynglŷn â sicrhau bod aelodau a rhanddeiliaid yn meddu ar ddealltwriaeth lawn o’r sefydliad y maent yn ymgysylltu ag ef, a gallai hyn ofyn am esboniad o’r strwythur cyfreithiol, y strwythur rheoli, polisïau allweddol a’r model busnes naill ai ar ffurf rhyw fath o ‘lawlyfr’ neu hyfforddiant sefydlu, neu’r naill a’r llall.
Ffyrdd o gynnwys rhanddeiliaid mewn llywodraethiant menter gymdeithasol
Mae gan fusnes cymdeithasol bobl oddi mewn iddo a fydd yn edrych ar ddatblygu busnes o safbwyntiau ychydig yn wahanol, ac mae’n syniad da trefnu’r gwahanol adnoddau i lunio strategaeth ymgysylltu dda.
Bydd y bobl farchnata eisiau edrych ar sut gallant wneud pobl a/neu sefydliadau perthnasol yn ymwybodol bod rôl aelodaeth neu randdeiliaid ar gael iddyn nhw, wedyn esbonio iddynt beth yw hynny, ac ymhellach, sut gallai fod o fudd iddynt. Yn olaf, sut gellir gwneud y broses o ddod i mewn o’r tu allan neu o lefelau ymgysylltu isel mor syml, di-straen a difyr ag y bo modd.
Bydd yr adran datblygu adnoddau dynol eisiau edrych ar rolau a chyfrifoldebau aelodau a rhanddeiliaid. Dylai’r adran wneud yn siŵr fod hysbysebion ar gyfer unigolion o’r fath yn glir ac yn y lle cywir, bod contract yn barod iddynt ei lofnodi, a’u bod wedi cael hyfforddiant a chymorth priodol.
Bydd y bobl sicrhau ansawdd eisiau dod o hyd i fesurau ymgysylltu a ffyrdd o fonitro pa mor dda mae’n mynd, byddant yn sicr eisiau gwneud yn siŵr bod mecanwaith i adolygu perfformiad yn erbyn targedau fel nad yw’r strategaeth gyfan yn cael ei hanghofio’n llwyr.
At ei gilydd, po fwyaf y mae’r bobl allweddol o fewn y busnes cymdeithasol yn mynd ati i feddwl ynglŷn â pha mor bwysig yw’r maes hwn ar gyfer effeithiolrwydd, cynaliadwyedd a thwf sefydliadol, y mwyaf tebygol yw hi yr eir i’r afael ag ef yn gyson ac yn dda. Nid yw’n faes yr eir i’r afael ag ef yn hawdd gan ymyriadau gwasgaredig heb gefnogaeth sylweddol gan reolwyr.
Wedi i chi sefydlu sut i ymgysylltu’n effeithiol â rhanddeiliaid ac aelodau o’ch busnes cymdeithasol, dechreuwch feddwl ynghylch darparu rheolaeth a goruchwyliaeth.