BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ymgysylltu â rhanddeiliaid ac aelodau

Un o gryfderau gwych busnesau cymdeithasol yw eu bod yn ymgysylltu â pherchnogaeth ac yn dylanwadu ar ystod ehangach a nifer fwy o randdeiliaid ac aelodau na’r rhan fwyaf o fusnesau o faint tebyg.

Y berthynas rhwng menter gymdeithasol a’i rhanddeiliaid  

Mae ymgysylltu ag aelodau yn dda i randdeiliaid gan ei fod yn rhoi ffurf o ‘bleidlais’ iddynt. Mae hefyd yn dda i’r busnes cymdeithasol os yw’n llwyddo i baratoi’r rhanddeiliaid hynny i ymgymryd â’r cyfrifoldebau cyfatebol a gwneud cyfraniad cadarnhaol at broffil a pherfformiad. Gall y berthynas rhwng y rhanddeiliaid a’r busnes cymdeithasol fod yn dyngedfennol.

I’r perwyl hwn, mae busnesau cymdeithasol effeithiol yn bwriadu cynnal a gwella’n barhaus ymgysylltiad cadarnhaol eu haelodau a’u rhanddeiliaid, gan osod nod i’w grymuso i gyfrannu at lywodraethiant da, gan sicrhau ystod o fewnbwn cyn gwneud penderfyniadau strategol. Mae hyn yn helpu cael y penderfyniadau hynny’n gywir ac yn golygu pan gaiff y penderfyniadau hynny eu rhoi ar waith, bod awdurdod y sefydliad cyfan y tu ôl iddynt.

Mae hyn, yn ei dro, yn golygu bod cymorth yn haws i’w drefnu a’i droi’n negeseuon hyrwyddo cryf a chyson. Bydd yr union ffaith fod y sefydliad yn cael ei weld fel democratiaeth effeithiol sy’n dilyn strategaeth fusnes gydlynus yn ei gwneud yn haws recriwtio mwy o gefnogwyr.  

Sut ydych chi’n ymgysylltu â rhanddeiliaid ac aelodau? 

Efallai mai’r man cychwyn yw sicrhau yr eir i’r afael â’r rhwystrau amlwg rhag ymgysylltu. Os yw’r strategaeth bresennol ar gyfer ymgysylltu yn cynnwys gwahoddiadau achlysurol i gyfarfodydd hir a diflas, efallai bod angen ailfeddwl ar raddfa fawr.  

Dylid adolygu’r strategaeth mynediad i sicrhau ei bod yn delio â mynediad nid yn unig at wasanaethau a chyflogaeth, ond hefyd at gyfranogiad o ran aelodaeth a llywodraethiant. Yn yr un modd, gellir adolygu’r Polisi Cyfle Cyfartal a’i weithredu o ran rhwystrau seicolegol a diwylliannol.  

Gellir adolygu’r ddogfen lywodraethu ei hun yn rheolaidd i wneud yn siŵr ei bod yn 'dal i fyny' ag esblygiad y sefydliad ac yn caniatáu ar gyfer cynrychiolaeth briodol o’r grwpiau rhanddeiliaid y mae’n ceisio ymgysylltu â nhw a’r mecanweithiau y gallai eu caniatáu ar gyfer sefydlu grwpiau cyfeirio, prosesau ymgynghori a fforymau. 

Heriau llywodraethiant ar gyfer mentrau cymdeithasol 

Achos mwyaf mynych difreinio a dieithrwch yw diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth. Mae’r strategaeth gyfathrebu yn allweddol yma. Mae cyfathrebu’n ymwneud yn rhannol â rhannu negeseuon cadarnhaol ond mae hefyd ynglŷn â sicrhau bod aelodau a rhanddeiliaid yn meddu ar ddealltwriaeth lawn o’r sefydliad y maent yn ymgysylltu ag ef, a gallai hyn ofyn am esboniad o’r strwythur cyfreithiol, y strwythur rheoli, polisïau allweddol a’r model busnes naill ai ar ffurf rhyw fath o ‘lawlyfr’ neu hyfforddiant sefydlu, neu’r naill a’r llall.

Ffyrdd o gynnwys rhanddeiliaid mewn llywodraethiant menter gymdeithasol

Mae gan fusnes cymdeithasol bobl oddi mewn iddo a fydd yn edrych ar ddatblygu busnes o safbwyntiau ychydig yn wahanol, ac mae’n syniad da trefnu’r gwahanol adnoddau i lunio strategaeth ymgysylltu dda. 

Wedi i chi sefydlu sut i ymgysylltu’n effeithiol â rhanddeiliaid ac aelodau o’ch busnes cymdeithasol, dechreuwch feddwl ynghylch darparu rheolaeth a goruchwyliaeth.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.