Defnyddir y term Bwrdd i gwmpasu ystod eang o gyrff llywodraethu, yn cynnwys Cyfarwyddwyr, Ymddiriedolwyr, pwyllgor rheoli a phwyllgor gweithredol.
Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am lywodraethu ac arwain y busnes cymdeithasol fel y nodwyd yn ei reolau cyfreithiol.
Dylai fod gan eich Bwrdd y sgiliau, y wybodaeth a’r profiad angenrheidiol i reoli ac arwain y busnes cymdeithasol i sicrhau ei fod yn cyflawni ei genhadaeth ac yn bodloni’r holl ofynion cyfreithiol a rheoleiddio. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod:
- Aelodau’r Bwrdd yn cael eu penodi’n gyfreithiol
- Pob un o aelodau’r Bwrdd yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau unigol ac ar y cyd
- Pob un o’r gofynion cydymffurfiaeth busnes perthnasol yn cael eu bodloni
- Goruchwyliaeth gyfreithiol, systematig a phriodol wrth ddirprwyo i swyddogion, is-bwyllgorau neu staff sy’n cael tâl a gwirfoddolwyr.
Beth allai ddigwydd os nad yw aelodau’r bwrdd yn cymryd cyfrifoldeb lawn am yr holl gydymffurfiaeth busnes berthnasol? Yn gyntaf, mae angen i chi ddeall atebolrwydd.
Canllaw i gyfarfodydd Aelodau’r Bwrdd
Defnyddir y term aelodau’r Bwrdd (cyfeirir atynt yn swyddogol fel Cyfarwyddwyr mewn cwmnïau cyfyngedig) i gyfeirio at y bobl sy’n ffurfio corff llywodraethu eich busnes cymdeithasol. Gallent gael eu galw hefyd yn ymddiriedolwyr, Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, Cyfarwyddwyr, Bwrdd y Cyfarwyddwyr, pwyllgor rheoli neu bwyllgor gweithredol.
Gwyliwch y fideo isod i ddysgu mwy am gyfarfodydd Aelodau’r Bwrdd.
Atebolrwydd personol: Nid oes gan fusnes anghorfforedig ei hunaniaeth ei hun, ac o’r herwydd, mae ei berchnogion yn atebol yn bersonol am ei ddyledion ac am unrhyw weithredu cyfreithlon sy’n cael ei ddwyn yn erbyn y busnes. Mae atebolrwydd yn anghyfyngedig.
Atebolrwydd cyfyngedig: Mae gan fusnes atebolrwydd cyfyngedig ei hunaniaeth gyfreithiol ei hun, ar wahân i’w aelodau Bwrdd a’i aelodau, sy’n golygu mai dim ond y busnes sy’n atebol am dalu ei ddyledion neu am unrhyw gamau cyfreithlon; caiff y Cyfarwyddwyr a’r aelodau eu diogelu rhag atebolrwydd. Ceir amgylchiadau arbennig a phrin pan y gallai aelodau unigol o’r Bwrdd eu darganfod eu hunain yn atebol yn bersonol.
Diben y canllaw hwn yw eich gwneud yn ymwybodol o’ch dyletswyddau cyfreithiol fel aelodau o’r Bwrdd a’ch cynorthwyo i sicrhau bod eich busnes yn cydymffurfio’n gyfreithiol ym mhob ystyr o’r gair. Dylai cyflawni eich rolau a’ch cyfrifoldebau cyfreithiol fel aelodau o’r Bwrdd busnes atebolrwydd cyfyngedig sicrhau eich bod yn lleihau i’r eithaf unrhyw risg o fod yn atebol yn bersonol am unrhyw ddyledion neu gamau cyfreithiol sy’n cael eu dwyn yn eich erbyn.
Mae meysydd amrywiol lle gallai atebolrwydd godi wrth gynnal busnes fel a ganlyn:
Fel y crybwyllir uchod, mae bod yn aelod o’r Bwrdd yn cynnig mantais atebolrwydd cyfyngedig ac nid yw’n gyfrifol yn bersonol am ddyledion busnes cymdeithasol. Mae hyn yn golygu, os na all busnes dalu ei ddyledion, mai dim ond asedau’r busnes sy’n gallu cael eu cymryd mewn ymgais i glirio’r dyledion.
Mae rhai achosion lle gallai Aelodau o’r Bwrdd / Cyfarwyddwr Cwmni gael eu dal yn atebol yn bersonol am ddyledion busnes a byddant yn defnyddio’u cyllid a’u hasedau eu hunain i glirio’r rhain:
- Mae aelod o’r Bwrdd wedi llofnodi gwarant bersonol wrth gymryd benthyciad busnes
- Mae gan y busnes cymdeithasol gyfrif benthyciad Cyfarwyddwr â gorddrafft
- Mae aelodau o’r Bwrdd wedi masnachu trwy dwyll, h.y. gyda’r bwriad i dwyllo
- Mae aelodau o’r Bwrdd wedi masnachu’n anghyfreithlon, h.y. parhau i fasnachu pan na ellir talu dyledion a bod aelodau o’r Bwrdd / Cyfarwyddwyr yn gwybod, neu dylent fod wedi gwybod, nad oedd unrhyw ragolygon rhesymol y byddai’r busnes yn osgoi ansolfedd, diddymiad neu weinyddiad.
Gellir osgoi hyn trwy sicrhau eich bod yn cydymffurfio â phob un o'r gofynion angenrheidiol o ran eich rheoleiddiwr (e.e. Tŷ’r Cwmnïau) a CThEF a thrwy sicrhau eich bod yn monitro sefyllfa ariannol y busnes cymdeithasol, gan weithredu’n ddidwyll bob amser.
Wrth gyflogi staff, gall aelodau o’r Bwrdd, fel cyflogeion eraill, gael eu dal yn atebol am rai honiadau gan gyflogeion. Gellir ymdrin â hawliadau trwy dribiwnlys cyflogaeth ar ddiswyddiadau annheg ac anghyfiawn, gwahaniaethu, cyflog cyfartal a gostyngiadau o gyflogau. Mae’n debygol mai’r canlyniad fydd cytundeb setlo sy’n cynnwys iawndal i’r cyflogai. Gellir dod â hawliadau yn erbyn yr unigolyn sydd wedi gwahaniaethu, er enghraifft, ac yn erbyn y busnes cymdeithasol, yn ogystal. https://www.acas.org.uk/
O dan gyfraith iechyd a diogelwch, a chithau’n gyflogwr, mae gennych gyfrifoldeb i ddiogelu gweithwyr a phobl eraill rhag perygl i’w hiechyd a’u diogelwch.
Rhaid i aelodau’r Bwrdd ddiogelu cyflogeion a phobl eraill rhag anafu neu fynd yn sâl trwy weithio. Os na fyddwch yn gwneud hyn, gallai rheoleiddiwr fel Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) neu awdurdod lleol gymryd camau yn eich erbyn o dan gyfraith droseddol. Gallai’r unigolyn sydd wedi’i effeithio wneud hawliad am iawndal yn eich erbyn o dan gyfraith sifil.
Ar ei waethaf, gall esgeulustod arwain at farwolaeth yn y gweithle a dod ag achos o ddynladdiad corfforaethol yn erbyn y busnes cymdeithasol, os teimlir y bu achos difrifol o dorri dyletswydd gofal. Bydd erlynwyr yn cyhuddo aelodau unigol o’r Bwrdd yn enwedig os yw’r busnes corfforaethol yn cael ei erlyn am ddynladdiad corfforaethol.
Gallai aelodau o’r Bwrdd sy’n torri eu dyletswyddau cyfreithiol ac nad ydynt yn cymryd y mater cydymffurfio o ddifri wynebu:
- Colli eu hatebolrwydd cyfyngedig
- Cael eu datgymhwyso o weithredu fel aelod o’r Bwrdd / Cyfarwyddwr
- Achosion sifil neu droseddol.
Eisiau trafod y pwnc ymhellach?
Cysylltwch â sbwenquiries@cwmpas.coop neu'ch Cynghorydd Busnes pwrpasol.
Ymgeisiwch nawr am gymorth
Yn barod i dyfu eich busnes cymdeithasol? Ymgeisiwch nawr trwy Cwmpas i gael mynediad at gymorth ac adnoddau teilwredig sy’n gwneud gwahaniaeth.