BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cyfrifoldebau aelodau’r Bwrdd am gydymffurfiaeth busnes

Defnyddir y term Bwrdd i gwmpasu ystod eang o gyrff llywodraethu, yn cynnwys Cyfarwyddwyr, Ymddiriedolwyr, pwyllgor rheoli a phwyllgor gweithredol.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am lywodraethu ac arwain y busnes cymdeithasol fel y nodwyd yn ei reolau cyfreithiol.

Dylai fod gan eich Bwrdd y sgiliau, y wybodaeth a’r profiad angenrheidiol i reoli ac arwain y busnes cymdeithasol i sicrhau ei fod yn cyflawni ei genhadaeth ac yn bodloni’r holl ofynion cyfreithiol a rheoleiddio. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod:

  • Aelodau’r Bwrdd yn cael eu penodi’n gyfreithiol
  • Pob un o aelodau’r Bwrdd yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau unigol ac ar y cyd
  • Pob un o’r gofynion cydymffurfiaeth busnes perthnasol yn cael eu bodloni
  • Goruchwyliaeth gyfreithiol, systematig a phriodol wrth ddirprwyo i swyddogion, is-bwyllgorau neu staff sy’n cael tâl a gwirfoddolwyr.

Beth allai ddigwydd os nad yw aelodau’r bwrdd yn cymryd cyfrifoldeb lawn am yr holl gydymffurfiaeth busnes berthnasol? Yn gyntaf, mae angen i chi ddeall atebolrwydd.

 

Canllaw i gyfarfodydd Aelodau’r Bwrdd

Defnyddir y term aelodau’r Bwrdd (cyfeirir atynt yn swyddogol fel Cyfarwyddwyr mewn cwmnïau cyfyngedig) i gyfeirio at y bobl sy’n ffurfio corff llywodraethu eich busnes cymdeithasol. Gallent gael eu galw hefyd yn ymddiriedolwyr, Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, Cyfarwyddwyr, Bwrdd y Cyfarwyddwyr, pwyllgor rheoli neu bwyllgor gweithredol.

Gwyliwch y fideo isod i ddysgu mwy am gyfarfodydd Aelodau’r Bwrdd.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Atebolrwydd personol: Nid oes gan fusnes anghorfforedig ei hunaniaeth ei hun, ac o’r herwydd, mae ei berchnogion yn atebol yn bersonol am ei ddyledion ac am unrhyw weithredu cyfreithlon sy’n cael ei ddwyn yn erbyn y busnes. Mae atebolrwydd yn anghyfyngedig.

Atebolrwydd cyfyngedig: Mae gan fusnes atebolrwydd cyfyngedig ei hunaniaeth gyfreithiol ei hun, ar wahân i’w aelodau Bwrdd a’i aelodau, sy’n golygu mai dim ond y busnes sy’n atebol am dalu ei ddyledion neu am unrhyw gamau cyfreithlon; caiff y Cyfarwyddwyr a’r aelodau eu diogelu rhag atebolrwydd. Ceir amgylchiadau arbennig a phrin pan y gallai aelodau unigol o’r Bwrdd eu darganfod eu hunain yn atebol yn bersonol.

Diben y canllaw hwn yw eich gwneud yn ymwybodol o’ch dyletswyddau cyfreithiol fel aelodau o’r Bwrdd a’ch cynorthwyo i sicrhau bod eich busnes yn cydymffurfio’n gyfreithiol ym mhob ystyr o’r gair. Dylai cyflawni eich rolau a’ch cyfrifoldebau cyfreithiol fel aelodau o’r Bwrdd busnes atebolrwydd cyfyngedig sicrhau eich bod yn lleihau i’r eithaf unrhyw risg o fod yn atebol yn bersonol am unrhyw ddyledion neu gamau cyfreithiol sy’n cael eu dwyn yn eich erbyn.

Mae meysydd amrywiol lle gallai atebolrwydd godi wrth gynnal busnes fel a ganlyn:

Eisiau trafod y pwnc ymhellach?

Cysylltwch â sbwenquiries@cwmpas.coop neu'ch Cynghorydd Busnes pwrpasol.

 

Ymgeisiwch nawr am gymorth

Yn barod i dyfu eich busnes cymdeithasol? Ymgeisiwch nawr trwy Cwmpas i gael mynediad at gymorth ac adnoddau teilwredig sy’n gwneud gwahaniaeth.



Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.