BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cyllido busnes cymdeithasol

Bydd gan fenter gymdeithasol sy’n cael ei chynnal yn dda strategaeth ariannol tymor canolig i dymor hir sy’n sicrhau bod ganddi ddigon o gyfalaf.

Mae hyn yn golygu bod y busnes yn ennill digon o arian o fenthyciadau, buddsoddiad cyfranddaliadau ac elw argadwedigiw alluogi i ddilyn ei gynllun datblygu busnes.

Sut i ariannu eich menter gymdeithasol? 

Cyn ystyried y modelau cyllido menter gymdeithasol, edrychwch ar y broses cynllunio busnes a amlinellir yn Cychwyn Busnes Cymdeithasol aTyfu Busnes Cymdeithasol

Ar ôl i chi weithio trwy’r adrannau hynny, bydd gennych syniad gwell am eich gofyniad cyfalaf parhaus a faint o arian sydd ei angen arnoch ar gyfer: 

  • buddsoddiadau cyfalaf sefydlog (arian a fuddsoddir mewn asedau o natur barhaol i’w defnyddio droeon dros gyfnod hir) 
  • buddsoddiad tymor hir mewn elfennau anweladwy (sgiliau, datblygu’r farchnad a datblygu cynnyrch) 
  • cyfalaf gweithio (yr arian sydd ar gael ar gyfer gweithrediadau sefydliad o ddydd i ddydd) 

Yna, gallwch sefydlu strategaeth fuddsoddi gytbwys ar gyfer eich busnes cymdeithasol a phenderfynu p’un a oes angen ceisio buddsoddiad. A oes strategaethau eraill ar gyfer cyllido?

Heriau wrth gyllido menter gymdeithasol 

Os nad ydych yn cynhyrchu digon o gyfalaf i gyflawni eich amcanion busnes, gall y fenter wynebu nifer o anawsterau, megis: 

  • Gorfasnachu: Nid yw sylfaen gyfalaf gyfan (benthyciadau, buddsoddi cyfranddaliadau ac elw argadwedig) y fenter yn ddigonol i wneud iawn am golled sydd, o ran trosiant (lefel y gwerthiannau), yn gymharol fach.  
  • Bod yn dlawd o ran arian parod: Nid yw’r fenter yn gallu ymateb i alw oherwydd nid yw’n gallu fforddio prynu llafur neu ddeunydd crai.  
  • Nid oes gan y fenter ddigon o gyfalaf: Nid yw’r fenter yn gallu cyflenwi lefel gynyddol o werthiant, sy’n golygu nad yw’n gallu ymgymryd â chyfleoedd newydd. 

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.