Mae digwyddiadau annisgwyl yn gallu cael effaith fawr ar fusnesau bach. Gall tanau, llifogydd, colli Technoleg Gwybodaeth ac ymosodiadau seiber amharu’n ddifrifol ar weithrediadau, a gall y canlyniadau gynnwys colli cwsmeriaid, lleihau cynhyrchiant, colled ariannol, a chau’r busnes mewn ambell i achos.
Mae cynllunio parhad busnes yn eich helpu i baratoi ar gyfer digwyddiadau o’r fath, i leihau’r effeithiau, ac i adfer gweithrediadau arferol cyn gynted â phosibl. Mae'r canllaw hwn yn dod â thempledi ymarferol, canllawiau ar gyfer gwahanol senarios, a dulliau cynllunio strategol ynghyd er mwyn helpu busnesau Cymru i fod yn fwy gwydn.
1. Pwysigrwydd Parhad Busnes
Gall digwyddiadau annisgwyl, megis trychineb naturiol, seiberdroseddau, aflonyddwch sifil neu golli cyflenwadau, ddigwydd ar unrhyw adeg.
Mae cynllun parhad busnes yn eich galluogi i wneud y canlynol:
- Paratoi ar gyfer digwyddiadau risg uchel
- Parhau gyda’ch gweithrediadau hanfodol pan fydd tarfu yn digwydd
- Diogelu eich cwsmeriaid, eich asedau a'ch gweithlu
- Lleihau’r cyfnod o fod yn anweithredol a’ch colledion ariannol
- Adfer swyddogaethau hollbwysig yn gyflym
- Dangos gwytnwch i yswirwyr, rheoleiddwyr a phartneriaid
Mae llawer o yswirwyr bellach yn gofyn i fusnesau gael trefniadau parhad busnes ar waith cyn y byddan nhw’n cynnig yswiriant.
2. Elfennau Allweddol Cynllunio Parhad
Er mwyn creu cynllun effeithiol ar gyfer parhau’r busnes, fel arfer bydd angen cynnwys dwy elfen gysylltiedig:
- Asesiad risg, sy'n rhestru:
- Y mathau o ddigwyddiadau a allai effeithio arnoch
- Tebygolrwydd a difrifoldeb pob math o ddigwyddiad
- Dadansoddiad o’r Effaith ar Fusnes (BIA), sy'n nodi:
- Gweithgareddau busnes hollbwysig
- Cyfnod hiraf y gallwch fod yn anweithredol
- Amcanion o ran amser adfer (RTOs)
- Yr adnoddau sydd eu hangen er mwyn adfer
Gyda'i gilydd, mae'r rhain yn gosod sylfaen ar gyfer creu cynllun parhad cadarn.
3. Templed Cynllun Parhad Busnes
Mae llawer o dempledi cynllunio parhad busnes ar gael ar-lein. Gallwch adeiladu eich cynllun eich hun neu ddefnyddio adnodd strwythuredig, e.e:
- GOV.UK Business Continuity Management Toolkit
- Templedi trydydd parti neu feddalwedd parhad ar-lein
Y cynllun mwyaf effeithiol yw’r un sydd wedi'i deilwra i'ch gweithrediadau penodol chi.
Mae'r adrannau isod yn nodi meysydd allweddol y dylech eu cynnwys yn eich cynllun. Gallwch ehangu'r adrannau hyn yn ôl maint ac anghenion eich busnes.
Manylion y Busnes
Enw’r Busnes:
Cyfeiriad masnachu:
Enw'r prif gyswllt:
Swydd neu safle:
Ffôn:
E-bost:
Dyddiad cwblhau:
Dyddiad adolygu nesaf:
3.1 Gweithgareddau Hanfodol
Rhestrwch pa weithgareddau sydd yn gorfod parhau yn ystod digwyddiad aflonyddu er mwyn i'ch busnes weithredu.
3.2 Pobl a Chyfrifoldebau Allweddol
Dylech gynnwys pwy fydd yn gwneud penderfyniadau, pwy fydd yn cyfathrebu â chwsmeriaid, a phwy fydd yn cydlynu’r adferiad:
Enw:
Swydd:
Ffôn:
E-bost:
Cyswllt wrth gefn:
3.3 Trefniadau Cyfathrebu
Nodwch sut y byddwch yn cadw mewn cysylltiad os bydd eich systemau arferol yn methu:
Prif ddull:
Dulliau wrth gefn: (e.e. SMS, WhatsApp, e-bost amgen, llinell dir)
Neges wedi’i pharatoi i gwsmeriaid:
3.4 Adnoddau Hanfodol a Dulliau Gweithio Amgen
- adeiladau,
- offer,
- systemau TG,
- stoc,
- cerbydau,
- dogfennau allweddol.
Lleoliad copïau wrth gefn a sut mae cael atyn nhw:
3.5 Cyflenwyr a Dewisiadau Amgen
Rhestrwch y cyflenwyr hollbwysig a’r opsiynau wrth gefn, gan gynnwys darparwyr gwasanaethau digidol ac offer cwmwl.
3.6 Parhad Ariannol
Eglurwch sut y bydd eich busnes yn cynnal:
- Bancio
- Y gyflogres
- Anfonebu
- Llif arian parod
3.7 Risgiau a pharodrwydd lleol
Ystyriwch risgiau penodol, e.e.:
- Llifogydd
- Tywydd garw
- Aflonyddwch cefn gwlad
- Materion trafnidiaeth
3.8 Ymateb Uniongyrchol (awr gyntaf)
Nodwch pa gamau i’w cymryd i sefydlogi'r sefyllfa, e.e:
- Sicrhau diogelwch staff
- Hysbysu'r gwasanaethau brys
- Asesu’r effaith
- Dechrau cynlluniau cyfathrebu
- Dechrau camau adfer
4. Rheoli Argyfyngau
Yn ystod aflonyddwch difrifol, gall busnesau wynebu heriau gweithredol, risg i’w henw da a phroblemau cyfathrebu.
Mae Rheoli Argyfyngau yn cynnwys:
4.1 Ymateb i Argyfwng
Canolbwyntiwch ar ddiogelwch pobl yn gyntaf. Dylech gynnwys:
- Trefniadau gwacáu
- Rhestrau gwirio wrth ymateb i ddigwyddiad
- Mapiau diogelwch safle
- Manylion y safle yr adleolir iddo
- Trefniadau gweithio gartref
4.2 Cyfathrebu mewn Argyfwng
Cynlluniwch sut y bydd gwybodaeth yn cyrraedd:
- Staff
- Cwsmeriaid
- Y cyfryngau
- Rhanddeiliaid
- Cyflenwyr
Dylech gynnwys:
- Protocolau cyfathrebu y cytunwyd arnynt
- Llefarydd dynodedig
- Datganiadau wedi'u cymeradwyo ymlaen llaw
- Canllawiau ar gyfer trin y cyfryngau
Pan fo’n bosibl, dylech hysbysu gweithwyr, cwsmeriaid a chyflenwyr cyn y byddan nhw’n clywed am ddigwyddiadau trwy'r cyfryngau cymdeithasol neu'r wasg.
4.3 Adferiad y Busnes
Crëwch gynlluniau gweithredol manwl ar gyfer:
- Adfer systemau TG hollbwysig
- Adfer stoc neu ddeunyddiau
- Ailsefydlu cysylltiad â chyflenwyr
- Dychwelyd i'r adeilad
- Ailadeiladu seilwaith
5. Y gwahaniaeth rhwng Adferiad yn sgil Trychineb a Pharhad Busnes
- Mae cynllun adfer yn sgil trychineb yn canolbwyntio'n benodol ar adfer systemau TG, data, gweinyddwyr a meddalwedd.
- Mae cynllun parhad busnes yn cynnwys gwytnwch sefydliadol ehangach – gan gynnwys pobl, prosesau, cyfleusterau a chyfathrebu.
Mae'r ddau gynllun yn cefnogi ei gilydd a dylent gyd-fynd a’i gilydd.
6. Yswiriant a Pharhad Busnes
Mae darparwyr yswiriant yn aml yn gofyn am gynllun parhad. Sicrhewch:
- Bod eich yswiriant yn adlewyrchu’r risgiau a nodwyd
- Bod mesurau amddiffyn eiddo rhag llifogydd (PFR) wedi’u gosod lle bo'n berthnasol
- Bod yswiriant tarfu ar fusnes yn cael ei ystyried
- Bod eich yswiriant seiber yn briodol ar gyfer eich systemau
Am ragor o wybodaeth, ewch i Cael yr yswiriant busnes cywir.
Ewch i’r adran Llifogydd isod am gyngor penodol ar gael yswiriant llifogydd fforddiadwy.
7. Paratoi ar gyfer Digwyddiadau Penodol
7.1 Llifogydd
Mae 1 o bob 7 cartref a busnes yng Nghymru mewn perygl o ddioddef llifogydd, a chyda'r argyfwng hinsawdd yn arwain at fwy a mwy o dywydd eithafol, mae'n bwysicach nag erioed bod busnesau yn ymwybodol o’r perygl o lifogydd ac yn ei ddeall. Gall llifogydd darfu ar weithrediadau, eiddo ac asedau yn ddifrifol.
Mae Paratoi ar gyfer Llifogydd yn golygu ystyried sut y byddai'ch busnes yn ymateb pe na allwch ddefnyddio eich adeilad neu pe caiff ei ddifrodi oherwydd lefelau dŵr sy'n codi.
Dylai busnesau:
- Nodi peryglon llifogydd a chofrestru i gael rhybuddion llifogydd
- Datblygu cynlluniau ar gyfer lleoliadau amgen neu weithio o bell
- Sicrhau bod eich staff yn ymwybodol o weithdrefnau brys
- Diogelu data hanfodol
- Adolygu polisïau yswiriant
Gwiriwch eich Opsiynau Yswiriant Busnes:
- Ymgysylltu â Chynllun Masnachol BIBA i gael yswiriant llifogydd fforddiadwy ac i ddod o hyd i froceriaid sy'n arbenigo mewn yswiriant perygl llifogydd ar gyfer busnesau bach a chanolig.
- Os ydych chi'n cael trafferth dod o hyd i yswiriant addas, gall busnesau ofyn am gyngor gan Gymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain.
Ystyriwch osod mesurau amddiffyn eiddo rhag llifogydd (PFR). Mae yswirwyr yn annog busnesau i gymryd camau i leihau'r perygl o lifogydd trwy ddefnyddio mesurau PFR, fel:
- Rhwystrau llifogydd
- Systemau trydanol wedi'u codi
- Deunyddiau sy'n gwrthsefyll dŵr
Er mwyn sicrhau bod y mesurau hyn yn gweithio'n iawn, mae'n bwysig defnyddio cynnyrch ardystiedig a gosodwyr cymwys, gall y rhain helpu i ostwng eich premiwm a’i gwneud yn haws i’ch yswirio.
Ceisiwch Gymorth Ariannol:
- Gall Canfyddwr Cyllid Busnes Cymru wirio a oes unrhyw grantiau, benthyciadau neu gyllid arall ar gael i wella gwytnwch rhag llifogydd yng Nghymru.
- Mae Banc Datblygu Cymru yn cynnig benthyciadau ar gyfer gwelliannau i wydnwch rhag llifogydd.
7.2 Adfer TG
Ystyriwch pa mor gyflym y gallai eich busnes adfer y canlynol:
- Gweinyddion
- Gliniaduron
- Systemau cwmwl
- Rhaglenni hollbwysig
- Copïau wrth gefn
Cwestiynau i'w hystyried:
- Am ba hyd fyddai systemau allweddol yn anweithredol?
- A fyddai data yn cael ei golli?
- A yw copïau wrth gefn yn ddiogel ac yn cael eu profi?
- A oes gennych ddyfeisiau amgen neu fynediad i'r cwmwl?
Seiberddiogelwch: Cadw Eich Busnes yn Ddiogel Ar-lein
Mae seiberdroseddu yn dod yn fwy o broblem i fusnesau ledled Cymru. Gallwch gryfhau eich gwytnwch seiber trwy sicrhau bod y canlynol yn eu lle:
- Hyfforddiant ymwybyddiaeth i’r staff
- Dilysiant aml-ffactor
- Copïau wrth gefn sydd yn ddiogel, wedi'u hamgryptio ac yn cael eu profi'n rheolaidd
- Arferion cryf o ran creu cyfrineiriau
- Gweithdrefnau adrodd am ddigwyddiadau
Am ragor o wybodaeth, ewch i Cyngor a Chymorth Seiberddiogelwch | Busnes Cymru
7.3 Troseddau Busnes
Gan gynnwys bygythiadau megis:
- E-droseddu
- Twyll
- Sgamiau
- Dwyn neu fandaliaeth
Am ragor o wybodaeth, ewch i Troseddau busnes | Busnes Cymru
8. Ble i gael Rhagor o Wybodaeth
8.1 Ymwybyddiaeth Gwrthderfysgaeth i Fusnesau
Mae cwrs e-ddysgu ACT Awareness gan ProtectUK ar gael i bob busnes yn y DU. Mae'n darparu hyfforddiant â chydnabyddiaeth genedlaethol ar adnabod arwyddion o weithgaredd amheus a lleihau'r risg o derfysgaeth sy'n effeithio ar weithrediadau busnes. Mae'n addas ar gyfer staff o bob math.
8.2 Canllawiau gan yr Awdurdod Diogelwch Diogelu Cenedlaethol (NPSA)
Mae'r NPSA yn cynnig canllawiau diogelwch i'r bobl a'r seilwaith sy'n cynnal y wlad. Mae eu cyngor yn cynnwys:
- Diogelwch ffisegol (adeiladau, mynedfeydd, ac ati)
- Diogelwch pobl a phersonél (gwiriadau cefndir, rheoli mynediad)
- Seiberddiogelwch (diogelu eich gwybodaeth a'ch systemau)
Ewch www.npsa.gov.uk am ragor o wybodaeth.
8.3 Canllawiau Awdurdodau Lleol Cymru
Dylai busnesau edrych ar wefan eu hawdurdod lleol am arweiniad a chymorth sy'n benodol i'w hardal.
- Blaenau Gwent
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Caerdydd
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Gwynedd
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Ynys Môn
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Sir Benfro
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Torfaen
- Bro Morgannwg
- Wrecsam
Gall treulio ychydig o amser yn paratoi nawr gryfhau'ch gallu i reoli aflonyddwch ac i ddiogelu eich busnes yn sylweddol yn y dyfodol.