Mae'r Cynllun Gweithredu Seiber yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru i Gymru ffynnu drwy seiberwydnwch, talent ac arloesedd. Byddwn yn helpu pobl, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i leihau risgiau ymosodiadau seiber ac adeiladu economi seiber ffyniannus.
Mae ymosodiadau seiber yn fygythiad cynyddol i fusnesau o bob maint. Yn ôl canfyddiadau’r Arolwg Tor-diogelwch Seiber 2025, yn 2025 roedd 43% o fusnesau’r DU yn gyffredinol wedi profi tor-diogelwch seiber neu ymosodiad seiber. Amcangyfrifir bod busnesau'r DU wedi profi oddeutu 8.58 miliwn o seiberdroseddau o bob math gan gynnwys tua 680,000 o seiberdroseddau nad ydynt yn ymwneud â gwe-rwydo yn ystod yr un cyfnod.
Gall ymosodiadau amharu ar weithrediadau, peryglu data sensitif, a niweidio enw da.
Mae Cymru'n ffodus i gael sawl sefydliad a all eich helpu i amddiffyn eich busnes rhag ymosodiad seiber. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, rhan o GCHQ, yw awdurdod technegol y DU ar gyfer seiberddiogelwch. Er 2016, mae wedi gweithio i wneud y DU y lle mwyaf diogel i fyw a gweithio ar-lein a dod ag eglurder a dealltwriaeth i fyd ar-lein cynyddol gymhleth. Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn darparu ystod o offer a gwasanaethau seiberddiogelwch am ddim i sefydliadau cymwys fel rhan o'r rhaglen ACD (Active Cyber Defence).
- Mae'r Hyb Arloesedd Seiber yn dod â diwydiant, y llywodraeth a phartneriaid academaidd eraill ynghyd yn llwyddiannus i dyfu sector seiberddiogelwch Cymru. Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae'r Hyb Arloesedd Seiber yn darparu hyfforddiant seiberddiogelwch ymarferol wedi’i sicrhau gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, a gweithgareddau ymgolli ymarferol ar systemau digidol cynrychioliadol blaengar sy’n ymwneud ag ymateb i ddigwyddiadau.
- Mae Canolfan Seibergadernid yng Nghymru yn sefydliad dan arweiniad yr Heddlu ac mae'n cael ei ariannu'n llawn gan yr Heddlu a'r Swyddfa Gartref fel bod aelodaeth a'r gwasanaethau a ddarperir yn rhad ac am ddim i fusnesau Cymru. Mae'n cynnig ffordd fforddiadwy i sefydliadau gael mynediad at wasanaethau seiberddiogelwch ac opsiynau aelodaeth, yn dibynnu ar ba lefel o gymorth sydd ei angen arnynt. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i'ch helpu i nodi eich gwendidau, asesu cynlluniau a pholisïau cyfredol a gweithio gydag eich timau i adeiladu ymwybyddiaeth seiber gyffredinol er mwyn eich amddiffyn rhag ymosodiad yn y pen draw.
Mae fideos ymwybyddiaeth seiberddiogelwch am ddim wedi'u datblygu gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â’r Heddlu yng Nghymru - Building Cyber Resilience - YouTube.
Rhoi Gwybod am Seiberdroseddu
Os ydych yn fusnes, yn elusen neu’n sefydliad arall sy'n dioddef ymosodiad seiber byw ar hyn o bryd, ffoniwch 0300 123 2040 ar unwaith.
Rhoi gwybod am negeseuon e-bost amheus
Mae’r Gwasanaeth Adrodd am negeseuon E-bost Amheus (SERS) yn galluogi'r cyhoedd i roi gwybod am negeseuon e-bost amheus trwy eu hanfon at report@phishing.gov.uk. Mae'r gwasanaeth yn dadansoddi'r negeseuon e-bost a lle canfyddir eu bod yn cynnwys dolenni i wefannau maleisus, mae’r gwasanaeth yn ceisio tynnu'r safleoedd hynny o'r rhyngrwyd i atal y niwed rhag lledaenu. Gall unrhyw un ddefnyddio SERS.
Action Fraud
Rhowch wybod am seiberdroseddu trwy gysylltu â chanolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll a seiberdroseddu os ydych chi wedi cael eich sgamio, eich twyllo neu brofi seiberdroseddu: UK's Home for Reporting Cyber Crime & Fraud - Report Fraud.