Cymorth Seiberddiogelwch

Offer a Gwasanaethau Seiberddiogelwch

Y Pecyn Cymorth Gweithredu Seiber

Mae'r Pecyn Cymorth Gweithredu Seiber yn ateb seiberddiogelwch wedi'i bersonoli rhad ac am ddim ar gyfer unig fasnachwyr, microfusnesau a sefydliadau bach sy'n troi seiberamddiffyn yn gamau syml, cyraeddadwy i'ch busnes. Wedi'i ddatblygu gan Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y DU (NCSC), mae'n wasanaeth rhad ac am ddim, a gefnogir gan y llywodraeth sydd wedi'i gynllunio ar gyfer y sawl sy'n newydd i seiberddiogelwch neu sydd heb gyllidebau TG mawr.

ACD (Active Cyber Defence) 

Mae'r rhaglen ACD yn cynnwys nifer o ymyriadau neu wasanaethau go iawn - pob un yn rhad ac am ddim i’w defnyddio - sy'n cyflawni gwasanaeth diogelwch penodol ar gyfer sefydliadau. 

Gwasanaeth Rhybudd Cynnar

Mewn dim ond 5 munud, cofrestrwch i dderbyn rhybuddion e-bost gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol wedi'u teilwra i'r bygythiadau seiber i gyfeiriad IP eich sefydliad: NCSC Early Warning - NCSC.GOV.UK ac The NCSC's Early Warning Service.

Gwiriadau Gwib

Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn caniatáu i unigolion a sefydliadau gynnal gwiriadau gwib o’u seiberddiogelwch. Nid oes angen i chi gofrestru i'w ddefnyddio, a gellir cynnal y gwiriadau mewn eiliadau.  

EIAB (Exercise in a Box) 

Mae EIAB yn adnodd o senarios realistig sy'n helpu sefydliadau i ymarfer a mireinio eu hymateb i ddigwyddiadau seiberddiogelwch mewn amgylchedd diogel a phreifat. Gall unrhyw un lawrlwytho a defnyddio EIAB.

Gwirio E-byst

Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol wedi cynhyrchu canllaw prynwr ar gyfer dewis y cynnyrch EASM (external attack surface management) cywir ar gyfer eich sefydliad, a'r nodweddion diogelwch y mae angen i chi eu hystyried. Byddwch yn gallu defnyddio gwasanaethau Web Check a Mail Check y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol tan 31 Mawrth 2026.  

Cyber Essentials

Mae Cyber Essentials yn gynllun ardystio a gefnogir gan lywodraeth y DU sy'n helpu i gadw data eich sefydliad a'ch cwsmeriaid yn ddiogel rhag ymosodiadau seiber. Beth bynnag yw eich maint, o ficro-fusnesau i gorfforaethau mawr, bydd cyflawni’r ardystiad hwn yn gwarchod rhag yr ymosodiadau seiber mwyaf cyffredin. Os oes gennych asedau digidol neu os ydych yn storio unrhyw ddata, gall rhoi rheolaethau Cyber Essentials ar waith eich helpu i'w cadw'n ddiogel: Cyber Essentials - Secure your business.

Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) yn argymell Cyber Essentials fel y safon ofynnol o seiberddiogelwch ar gyfer pob sefydliad.

Mae Cyber Essentials Plus yn archwiliad technegol o'ch systemau TG. Mae gwirhau holiadur hunanasesu Cyber Essentials yn hanfodol ar gyfer Cyber Essentials Plus.

Er ei fod yn seiliedig ar yr un gofynion technegol, mae Cyber Essentials Plus yn cynnwys archwiliad technegol o'ch systemau TG i wirhau bod y rheolaethau ar waith. Yn y modd hwn, mae'n rhoi mwy o sicrwydd eich bod yn cydymffurfio â'r cynllun.

Mae'r archwiliad yn cynnwys set gynrychioliadol o ddyfeisiau defnyddwyr, pob porth rhyngrwyd, a phob gweinydd â gwasanaethau sy’n hygyrch i'r rhyngrwyd.

Partner cyflenwi swyddogol Cyber Essentials yw IASME, sy'n gweithio gyda rhwydwaith o fwy na 300 o sefydliadau seiberddiogelwch ledled y DU a Thiriogaethau Dibynnol ar y Goron i gynghori ac ardystio sefydliadau o bob maint.

Gall Cynghorwyr Seiber roi cyngor seiberddiogelwch wedi'i gymeradwyo gan y llywodraeth i'ch busnes a'ch helpu i weithio tuag at dystysgrif Cyber Essentials.

Dewch yn aelod o’r Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru

P'un ai eich bod yn ficro-fusnes, BBaCh neu sefydliad sy'n chwilio am seiberddiogelwch cynhwysfawr, mae gan y Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru y pecyn aelodaeth perffaith wedi'i deilwra i'ch anghenion.

Dilyswch eich systemau seiber gan ddefnyddio labordai seiberddiogelwch blaengar

Mae'r Hyb Arloesedd Seiber yn cynnig cyfleusterau llwyfannau profi o'r radd flaenaf. O efeilliaid digidol all dyfu yn unol â’r anghenion i weithgynhyrchu corfforol cynrychioliadol a systemau cerbydau cysylltiedig. Os oes angen llwyfan profi rhithwir neu gorfforol ar raddfa fach ar gyfer adeiladu, profi a dilysu defnyddio dyfeisiau, prosesau, cynlluniau ymateb i ddigwyddiadau ac ati. Gall peirianwyr seiber yr Hyb Arloesedd Seiber weithio gyda chi i adeiladu hyn i gydymffurfio â’ch manylebau.

Hyfforddiant

Hyb Arloesedd Seiber

Hylendid ac Ymwybyddiaeth Seiber – Sesiwn Brofi

Cyflwyniad byr, ymarferol i sgiliau hylendid seiber hanfodol ar gyfer gwaith bob dydd a diogelwch ar-lein.

Hanfodion Hylendid ac Ymwybyddiaeth Seiber

Meithrin ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch sylfaenol gyda chanllawiau clir, bob dydd i ddiogelu eich hun a'ch sefydliad ar-lein.

Hylendid ac Ymwybyddiaeth Seiber Effeithiol

Datblygu eich gwybodaeth am hylendid seiber gyda sgiliau ymarferol ar gyfer rheoli bygythiadau, gwendidau, a risg trydydd parti.

Hanfodion Diogelwch Cwmwl

Cyfle i gael eich trwytho mewn hanfodion diogelwch yn y cwmwl, o fodelau a llywodraethiant i fygythiadau, ymateb i ddigwyddiadau, a thueddiadau.

Egwyddorion Diogelwch Cwmwl - Canolradd

Datblygu eich dealltwriaeth o ddiogelwch yn y cwmwl drwy edrych ar lywodraethiant, rheoli risg, dulliau rheoli technegol, ac ymateb i ddigwyddiadau go iawn.

Hanfodion Seiberddiogelwch drwy Ddyluniad

Deall hanfodion sut mae modd gwreiddio seiberddiogelwch mewn systemau o’r gwaelod i fyny; yn strategol, yn dechnegol, ac yn weithredol.

Seiberwydnwch ar gyfer Rheolwyr TG

Cwrs undydd wyneb yn wyneb i arweinwyr TG gysoni strategaeth seiber â nodau busnes, diogelu asedau, a meithrin gwydnwch gweithredol.

Seibrwydnwch i Gyfarwyddwyr ac Uwch Arweinwyr

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer cyfarwyddwyr, uwch swyddogion gweithredol ac arweinwyr busnes sydd am gryfhau seiberwydnwch eu sefydliad a deall eu cyfrifoldebau ar lefel bwrdd.  Bydd cyfranogwyr yn cael eu cyflwyno i'r Cod Ymarfer Llywodraethiant Seiber ac yn dysgu sut i ymgorffori atebolrwydd seiber ar y lefel uchaf o arweinyddiaeth - gan sicrhau bod llywodraethiant, buddsoddiad a diwylliant i gyd yn cyd-fynd i ddiogelu yr hyn sy'n bwysicaf.

Seiberddiogelwch Effeithiol drwy Ddyluniad

Adeiladu ar wybodaeth sylfaenol gyda sgiliau uwch mewn egwyddorion dylunio, llywodraethiant, risg, a seiberwydnwch gweithredol

Hanfodion Ymarferion Digwyddiadau Seiber

Hyfforddiant ymarferion digwyddiadau seiber trochol lle mae timau’n wynebu argyfyngau seiber realistig, yn mireinio cynlluniau dan bwysau, ac yn magu’r hyder i weithredu’n gyflym pan fo wir bwys.

Ymarferion Digwyddiadau Seiber – Efelychiad Realistig

Mae'r rhaglen diwrnod llawn yn mynd â gwydnwch ymhellach, gan efelychu digwyddiad seiber byw wedi'i deilwra i'ch sefydliad.

Cyflwyniad i Dechnoleg Weithredol a Seilwaith Cenedlaethol Allweddol

Cwrs hawdd i ddechreuwyr ar hanfodion Technoleg Weithredol, sectorau Seilwaith Cenedlaethol Allweddol, cydrannau seilwaith, a dulliau rheoli rhaglennu.

Cyflwyniad i Risgiau a Safonau Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol

Gan ganolbwyntio ar hanfodion seiberddiogelwch mewn Technoleg Weithredol a’r risgiau penodol a wynebir wrth sicrhau Technoleg Weithredol mewn Seilwaith Cenedlaethol Allweddol, mae’r modiwl hwn yn adeiladu ar yr wybodaeth o OT100 ond mae modd gwneud y cwrs yn annibynnol hefyd os oes gennych eisoes wybodaeth ymarferol am Dechnoleg Weithredol.

Sylfeini Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol

Cyflwyniad cyflawn i dechnoleg weithredol a’i heriau seiberddiogelwch.

Sylfeini Cymwysedig Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol

Defnyddio egwyddorion diogelwch Technoleg Weithredol mewn amgylchedd dysgu pwrpasol sy’n canolbwyntio ar fusnes.

Seiberddiogelwch Technoleg Weithredol – Deall Ymosodiadau, Tactegau Amddiffyn i Gydymffurfio

Gwella eich sgiliau diogelwch Technoleg Weithredol drwy fodelu bygythiadau ymarferol, mapio MITRE ATT&CK ICS, a rhaglenni dim ymddiriedaeth.

Llywodraeth y DU 

Awgrymiadau Gwych i Staff

Mae'r modiwl dysgu ar-lein hwn yn eich helpu chi a'ch staff i ddeall pam mae seiberddiogelwch yn bwysig ac yn dangos sut i gymryd camau ymarferol i amddiffyn rhag twyll a seiberdroseddu. Mae'n addas ar gyfer staff pob sefydliad bach a chanolig, gan gynnwys busnesau, elusennau a sefydliadau'r sector cyhoeddus. Mae'n rhad ac am ddim, yn hawdd ei ddefnyddio ac yn cymryd llai na 30 munud i'w gwblhau. Mae mwy o wybodaeth am yr hyfforddiant: Free online cyber security training for small orgs - NCSC.GOV.UK.

Introduction to Cyber Security

Mae'r cwrs hwn a ddatblygwyd gyda'r Brifysgol Agored a FutureLearn yn cynnig cyflwyniad cynhwysfawr i seiberddiogelwch a sut i ddiogelu eich bywyd digidol ar-lein. Gall unrhyw un sydd â diddordeb gymryd rhan. Mae tua dwy awr yr wythnos o astudio dros wyth wythnos. 

Cyber Governance Training

Mae Cyber Governance Training yn becyn am ddim gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol i helpu byrddau a chyfarwyddwyr i reoli eu risgiau digidol.

Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol

Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol wedi creu pum modiwl hyfforddi rhyngweithiol sy'n cyd-fynd ag egwyddorion y Cod Ymarfer Llywodraethu Seiber. Wedi'u datblygu gyda mewnwelediadau gan Gyfarwyddwyr Anweithredol y diwydiant ac arbenigwyr pwnc y llywodraeth, mae'r modiwlau hyn wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion Byrddau. Maent yn cefnogi Byrddau a Chyfarwyddwyr i ddeall egwyddorion y Cod a rhoi ei gamau gweithredu a argymhellir ar waith, gan helpu i wella seiberwydnwch eu sefydliad, heb drafod y manylion technegol. 

Cwmnïau Seiberddiogelwch

Mae'r cyfeiriadur hwn, Canfod Cyflenwr - GwerthwchiGymru, yn rhestru cwmnïau seiberddiogelwch Cymru yn ôl enw, yn ôl gwasanaethau neu yn ôl cynhyrchion fel y gallwch ddod o hyd i'r help sydd ei angen arnoch.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.