Cyfarwyddyd

Cael yr yswiriant busnes cywir

Mae cael yr yswiriant cywir yn hanfodol i unrhyw fusnes. Gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar eich busnes i brynu rhai yswiriannau. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 May 2016
Diweddarwyd diwethaf:
14 September 2023

Cynnwys

1. Cael yr yswiriant busnes cywir

Mae cael yr yswiriant cywir yn hanfodol i unrhyw fusnes. Gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar eich busnes i brynu rhai yswiriannau. Bydd math a maint y sicrwydd yswiriant sydd ei angen arnoch yn amrywio yn ôl y risgiau y mae’ch busnes yn agored iddynt a faint o risg yr ydych chi’n fodlon ei ysgwyddo. Mae materion allweddol ynglŷn ag yswiriant i’w hystyried yn cynnwys

  • yswirio’ch busnes a’ch asedau
  • dewis cynghorydd yswiriant
  • cyflwyno’ch risg

Dylech chi asesu hefyd a ydych angen yswiriant i’ch gwarchod chi a’ch busnes pe baech chi neu’ch staff allweddol ddim yn gallu gweithio.

 

2. Yswiriant busnes: y pethau sylfaenol

Mae cael yr yswiriant cywir yn hanfodol i unrhyw fusnes. Mae’n benderfyniad busnes synhwyrol i yswirio’ch adeiladau, gosodiadau, ffitiadau, offer a stoc yn erbyn trychinebau fel tân, llifogydd a lladrad.

Bydd y math a maint yr yswiriant sydd ei angen arnoch yn amrywio yn ôl y risgiau y mae’ch busnes yn agored iddynt a faint o risg yr ydych chi’n fodlon ei ysgwyddo.

Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar eich busnes i brynu rhai yswiriannau, yn cynnwys:

  • yswiriant atebolrwydd cyflogwyr – gwerth o leiaf £5 miliwn – i’r rhan fwyaf o weithwyr
  • yswiriant cerbyd os yw’ch busnes yn defnyddio cerbydau ar y ffordd neu lefydd cyhoeddus eraill
  • yswiriant indemniad proffesiynol i fusnesau mewn proffesiynau megis y gyfraith a chyfrifeg

Mae’n bwysig monitro lefel eich sicrwydd yswiriant wrth i’ch busnes ddatblygu. Trefnwch adolygiad blynyddol i ystyried sut mae’ch anghenion wedi newid. Cloriannwch gost y premiymau yn erbyn lefel eich risg.

Defnyddio broceriaid

Gall brocer yswiriant annibynnol eich helpu i ddewis y lefel cywir o sicrwydd, asesu pa risgiau yw’r bygythiad mwyaf a dod o hyd i’r fargen orau.

Sicrwydd atebolrwydd ac indemniad proffesiynol

Mae hyn yn gwarchod yn erbyn eich atebolrwydd cyfreithiol am unrhyw ddifrod neu niwed a achoswyd gan eich busnes, ei gynnyrch neu ei wasanaethau i gwsmeriaid neu i’r cyhoedd. Gall dyfarniadau (awards) am iawndal fod yn uchel, a gallent eich rhoi allan o fusnes, felly mae angen i chi ystyried yn ofalus pa mor agored yw’ch busnes i’r risgiau hyn.

Gwarchod eich hun a’ch busnes

Mae busnesau bach yn aml yn ddibynnol ar y bobl sy’n gweithio iddyn nhw - yn enwedig y perchennog-reolwr. O ganlyniad dylech asesu a ydych angen yswiriant i’ch gwarchod eich hun a’ch busnes pe na fyddech chi neu’ch staff allweddol yn gallu gweithio. Mae’r mathau i’w hystyried yn cynnwys: yswiriant person allweddol, yswiriant salwch difrifol, yswiriant diogelu incwm, yswiriant iechyd preifat, yswiriant bywyd, yswiriant iechyd parhaol ac yswiriant damwain bersonol.

Os ydych yn rhedeg eich busnes o’ch cartref, ni ddylech gymryd yn ganiataol fod eich yswiriant tŷ yn eich gwarchod. Mae angen i chi asesu’ch anghenion yswiriant busnes ar wahân.

Colledion a hawliadau

Os ydych wedi dioddef colled sy’n cael ei warantu gan yswiriant, mae’n rhaid i chi hysbysu’r yswiriwr cyn gynted â phosibl. Yn gyfreithiol, eich cyfrifoldeb chi yw dangos fod gennych hawliad dilys o dan eich polisi.

3. Dewis cynghorydd yswiriant a chyflwyno’ch risg

Bydd angen i chi adnabod y risgiau i’ch busnes a’r math o yswiriant sydd ei angen arnoch fel y gallwch ddod o hyd i gynghorydd yswiriant addas i’ch busnes. Mae yna ddau brif fath:

  • brocer yswiriant ar gyfer risgiau cyffredinol a masnachol, fel yswiriant car ac yswiriant atebolrwydd cyflogwyr. Gall brocer yswiriant ddod o hyd i well bargen i chi. Gofynnwch i’r brocer yswiriant pa mor eang y maen nhw’n chwilio yn y farchnad yswiriant. Mae rhai broceriaid yswiriant yn asiantiaid i nifer fechan o gwmnïau yswiriant yn unig a dim ond gydag un o’r cwmnïau hyn y gallant gynnig yswiriant i chi.
  • cynghorydd ariannol annibynnol (IFA) ar gyfer risgiau sy’n gysylltiedig â phobl a materion cynllunio busnes, megis yswiriant bywyd, diogelwch, iechyd a pharhad busnes. Mae’r Cynghorwyr yn delio â phensiynau a buddsoddiadau hefyd.

Gallwch gysylltu â chwmnïau yswiriant yn uniongyrchol, ond gallai fod yn haws defnyddio brocer yswiriant neu Gynghorydd Ariannol Annibynnol.

Chwiliwch am frocer yswiriant ar Wefan Cymdeithas Brydeinig y Broceriaid Yswiriant

Chwiliwch am Gynghorydd o gymdeithas y Cynghorwyr Ariannol Annibynnol

Mae rhai cwmnïau’n cynnig gwasanaethau Cynghorydd a brocer ond os nad yw’ch cynghorydd yn delio â math arbennig o yswiriant, dylent fod yn gallu’ch cyfeirio at ddarparwr arall.

Mae gonestrwydd yn hanfodol wrth ddelio ag yswirwyr. Gall rhoi gwybodaeth anghyflawn neu ddal rhywbeth perthnasol yn ôl annilysu (invalidate) eich hawliad, eich cytundeb a’ch polisi.

Cyflwyno’ch manylion risg

Asesiad risg iechyd a diogelwch cynhwysfawr yw’r cam cyntaf mewn llunio cyflwyniad o’ch risgiau. Gallwch gynnal asesiadau ar gyfer mathau eraill o risg, megis tân a diogelwch – a allai gynnwys adeiladau, cerbydau, gweithwyr a TG.
 

Asesu’ch risgiau

Gyda chymorth eich brocer yswiriant dylech asesu’ch gofynion yswiriant yn ofalus a llunio adroddiad trylwyr o gyflwr eich busnes.
 
Bydd cyflwyniad da o fanylion eich risg gyda’r holl wybodaeth angenrheidiol a thystiolaeth o arferion da yn helpu’r cwmni yswiriant i wneud y penderfyniad cywir am faint o risg yw’ch busnes a faint o bremiwm i’w godi.
 

Lleihau’ch risgiau

Rydych yn fwy tebygol o gael sicrwydd os gallwch ddangos nad ydych wedi cael llawer o ddamweiniau, neu ddim un, yn eich busnes, a bod y busnes yn cymryd diogelwch o ddifrif, gyda chofnodion asesu risg manwl ac arferion hyfforddi cynhwysfawr.
 
 

4. Yswirio’ch busnes a’ch asedau – yswiriannau cyffredinol

Mae cost yswiriant yn dibynnu ar asesiad yr yswiriwr o ba mor debygol yw difrod a maint unrhyw swm y gallent orfod ei dalu pe bai hawliad.

Yswirio’ch adeiladau busnes

Bydd cymryd polisi yswiriant addas yn sicrhau fod gennych warchodaeth am ddifrod i’ch adeiladau busnes gan amryw o achosion. Bydd y rhan fwyaf o gytundebau safonol yn yswirio’ch adeiladau a’ch llefydd busnes am amrywiaeth o risgiau, yn cynnwys:
  • tân a mellt
  • ffrwydrad
  • terfysg
  • difrod maleisus
  • stormydd
  • llifogydd
  • difrod a achoswyd gan gerbydau

Yswiriant cynnwys

Mae yswiriant adeiladau yn gwarchod yr adeilad ei hun yn unig. Byddwch chi hefyd angen yswiriant ar wahân ar gyfer stoc, peiriannau a chynnwys. Mae gennych y dewis o naill ai adnewyddu fel newydd neu yswiriant indemniad.
 
Mae’r rhan fwyaf o fusnesau’n dewis yswiriant indemniad, sy’n tynnu cost unrhyw draul a gwisgo (wear and tear) cyn setlo hawliad. Caiff cynnwys eu gwarchod hefyd yn erbyn lladrad, cyn belled mai drwy rym y daeth rhywun i mewn neu y gadawodd rhywun yr adeilad.
 
Gallwch chi hefyd ddewis polisi ymyriad busnes sy’n yswirio yn erbyn colli elw a gorbenion uwch yn sgil, dyweder, peiriannau a ddifrodwyd.
 
Yn dibynnu ar y math o fusnes sydd gennych, gall fod yn ddoeth cymryd yswiriant arbenigol ar gyfer eich anghenion busnes.
 

Yswiriant cerbyd

Os ydych chi, eich gweithwyr neu unrhyw un arall sy’n gweithio i’ch busnes yn defnyddio cerbyd ar gyfer gwaith yna dylech wirio:
  • fod pob cerbyd sy’n eiddo i’ch busnes wedi’u gwarchod gan yswiriant priodol
  • fod unrhyw gerbydau gweithwyr a ddefnyddir ar gyfer neu mewn cysylltiad â’ch busnes yn cael eu hyswiriant wedi’i ymestyn ar gyfer eu defnyddio i fusnes eu cyflogwr
  • fod unrhyw yswiriant cerbyd personol sydd gennych yn gwarchod ar gyfer defnydd busnes hefyd

Yswiriant busnes os ydych yn gweithio o’ch cartref

Os ydych yn gweithio o’ch cartref, mae’n bosibl y bydd angen polisi yswiriant arbenigol arnoch. Ni fydd yswiriant cartref yn gwarchod rhag unrhyw offer swyddfa a gollir, na chwaith yn darparu gwarchodaeth atebolrwydd cyhoeddus.
 

Gwneud hawliad yswiriant

Cyn gynted ag y byddwch yn darganfod colled neu ddifrod i’ch asedau, mae angen i chi ei riportio i’ch darparwr yswiriant. Os credwch fod y golled neu’r difrod yn ganlyniad gweithred droseddol, dylech ei riportio i’r heddlu yn syth.
 

5. Yswirio’ch busnes – pobl, bywyd ac iechyd

Os ydych chi neu un o’ch gweithwyr yn dioddef anaf, salwch neu farwolaeth, gallai fod goblygiadau ariannol i chi, eich busnes neu’ch staff.
 
Gall yswiriant gynnig sicrwydd i’r busnes ei hun – ee gwneud iawn am unrhyw ddiffyg mewn elw pe bai’r busnes yn colli gweithiwr allweddol. Gall hefyd fod yn fuddiant pwysig i weithwyr.
 
Cyn prynu yswiriant, ceisiwch adnabod y risgiau sy’n wynebu’ch busnes a’ch gweithwyr.
 
Mae rhai mathau o yswiriant yn orfodol. Mae angen rhai os yw’ch busnes yn cymryd rhan mewn gweithgareddau arbennig neu ffyrdd arbennig o weithredu. Dau o’r mathau mwyaf cyffredin o yswiriant busnes yw:
  • atebolrwydd cyflogwyr – er nid ydych angen hwn os ydych chi’n berchen ar y busnes a chi yw’r unig weithiwr
  • yswiriant cerbyd – os ydych chi neu’ch gweithwyr yn defnyddio cerbydau ar gyfer gwaith, dylech wirio eu bod wedi’u gwarchod gan yr yswiriant priodol
Mae’n bwysig paratoi’ch busnes i ddod dros drychinebau fel ei fod yn gallu goroesi amhariad mawr ac ailsefydlu gweithrediadau arferol yn gyflym. Gall yr yswiriant cywir leihau’r tarfu. Dylech ystyried:
  • yswiriant indemniad proffesiynol
  • damwain a salwch
  • staff allweddol
  • diogelu incwm
  • salwch difrifol
  • gofal meddygol preifat
  • colli elw
  • gwarant ffyddlondeb yn erbyn colled o ganlyniad i anonestrwydd staff, ee lladrad
  • yswirio asedau’ch busnes

Yswiriant fel buddiant i weithwyr

Mae yswiriant bywyd ac iechyd yn fuddiant gwerthfawr i’w gynnig i’ch gweithwyr. Gall chwarae rôl bwysig yn eich helpu i ddenu a chadw staff o safon uchel.
 

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.