A yw eich busnes yn allforio? Oes gennych chi ddiddordeb mewn masnachu dramor? Hoffech chi wybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael?
Ble bynnag yr ydych ar eich taith allforio, gall cynadleddau Archwilio Allforio Cymru helpu eich busnes!
Mae Archwilio Allforio Cymru 2026 yn gyfle gwych i fusnesau rwydweithio â'i gilydd; cael y newyddion a'r cyngor allforio diweddaraf; siarad â sefydliadau cefnogol; edrych ar gyfleoedd dramor; a darganfod dull o wneud eich busnes allforio yn fwy hunangynhaliol.
Archwilio uchafbwyntiau cynhadledd Allforio Cymru 2025
Prif elfennau y diwrnod
Prif araith weinidogol a sesiwn llawn
- Bydd busnesau sydd wedi llwyddo yn rhannu gwersi a ddysgwyd.
Cyfarfodydd un-i-un gyda chynrychiolwyr y farchnad dramor
- gall gynadleddwyr gyfarfod â chynrychiolwyr o farchnadoedd tramor i edrych ar gyfleoedd allforio.
Arddangosfa
- bydd sefydliadau o bob rhan o ecosystem allforio Cymru, gan gynnwys cyllid, cyfreithiol, logisteg, wrth law i drafod sut y gallant gynorthwyo eich busnes.
Parth Allforio Llywodraeth Cymru
- cwrdd â'n Cynghorwyr Masnach Rhyngwladol ac edrych ar ein dulliau o gynnig cymorth digidol.
Gweithdai allforio
- detholiad o sgyrsiau sy'n darparu'r wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar elfennau allweddol masnach ryngwladol.
Archwilio Allforio Cymru - De Cymru
12 Mawrth 2026
Cardiff City Stadium
Leckwith Road
Cardiff
CF11 8AZ
Archwilio Allforio Cymru - Gogledd Cymru
18 Mawrth 2026
Venue Cymru
The Promenade
Penrhyn Cres
Llandudno
LL30 1BB
Archwilio Allforio Cymru 2026
Cyfle gwych i fusnesau rwydweithio â'i gilydd