Cyrraedd y farchnad

Mae cyfathrebu rhithwir yn ei gwneud yn haws nag erioed i gysylltu â chysylltiadau ledled y byd.

Wedi dweud hynny, maen nhw’n dweud mai gyda phobl mae pobl am wneud busnes, ac felly does dim byd tebyg I gwrdd â’ch cleient wyneb yn wyneb.

Sut y gallwn ni helpu

Gallwn ni eich helpu chi i gyrraedd eich marchnad. Gallech ymuno ag un neu ragor o’r teithiau masnach niferus yr ydym yn eu trefnu bob blwyddyn. Mae ein teithiau yn gyfle i chi gymryd rhan mewn trafodaethau a all weddnewid pethau, gydag asiantwyr posibl, dosbarthwyr a hyd yn oed cwsmeriaid newydd; ac mae ein dewis o leoliadau yn adlewyrchu’r datblygiadau rhyngwladol diweddaraf, er mwyn rhoi’r cyfle gorau posibl i chi ganfod busnes newydd. 

Rydym hefyd yn arddangos mewn sioeau masnach byd-eang, gan alluogi busnesau i arddangos eu cynnyrch a’u gwasanaethau ar lwyfan y byd; ac mewn rhai amgylchiadau fe wnawn ni hyd yn oed gyfrannu at gostau eich arddangosfa neu’ch taith datblygu busnes rhyngwladol chi.

Hyfforddiant allforio

Diddordeb mewn allforio ond ddim yn gwybod ble i ddechrau? Edrychwch ar y cyrsiau allforio rhagarweiniol a chanolradd ar y Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS).


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.