Dod o hyd i gyfleoedd allforio

Pan fyddwch chi’n hyderus eich bod yn barod, bydd angen i chi ddechrau chwilio am y cyfleoedd yn eich dewis farchnad.

Pan fyddwch chi’n hyderus eich bod yn barod, bydd angen i chi ddechrau chwilio am y cyfleoedd yn eich dewis farchnad.

Sut y gallwn ni helpu

Gan ddefnyddio ein cysylltiadau byd-eang gallwn ni eich helpu chi i gysylltu â’ch cwsmeriaid neu’ch partner delfrydol. Mae gennym fynediad at arbenigwyr ar lawr gwlad mewn marchnadoedd tramor – pobl sy’n siarad yr iaith, yn deall yr arferion busnes ac yn gwybod yn well na neb sut i gyrraedd eich cwsmeriaid. Bydd ein rhwydwaith byd-eang yn gallu: 

  • Cynnig gwybodaeth fusnes ar lefel leol
  • Rhoi cyngor ar amodau a rheoliadau masnachu lleol
  • Adnabod cwsmeriaid, asiantwyr neu ddosbarthwyr posibl, a chysylltu â nhw
  • Trefnu cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb gyda phobl sydd â diddordeb, a dod gyda chi hyd yn oed os byddwch chi’n teimlo bod angen y lefel honno o gefnogaeth

Cysylltwch â’r Tîm


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.