Camau cyntaf?

Mae allforio yn gallu talu ar ei ganfed os byddwch yn buddsoddi mewn gwaith paratoi a chynllunio cadarn.

Dyma rai o’r cwestiynau y dylech eu hystyried cyn cychwyn ar eich taith allforio:

  • Ydy fy musnes yn barod i wasanaethu marchnad fwy?
  • I ba farchnad y dylwn i roi sylw yn gyntaf?
  • Oes gen i adnoddau yn eu lle i gefnogi fy nghynlluniau allforio?
  • Ydy’r cynnyrch neu’r gwasanaethau yn barod ar gyfer y marchnadoedd dan sylw?
  • Ydy’r wybodaeth ymarferol angenrheidiol gen i i fynd i mewn i farchnadoedd newydd?
  • Ble alla i ddysgu am forgludiant, rheoliadau rhyngwladol, trethi a chyfreithiau mewnforio... a phopeth arall y mae angen i fi ei wybod?

Datblygu eich gwybodaeth allforio

I'ch helpu i baratoi, mae gennym sawl offeryn ar eich cyfer:

  • Export Hub - cael mynediad i filoedd o dudalennau ar archwilio marchnadoedd, dod o hyd i gleientiaid, gwirio rhwystrau a rheoli llwythi.
  • Hyfforddiant allforio ar-lein - dysgu'r hanfodion gyda'r tri chwrs cryno hyn.
  • Canllawiau allforio - o ddechrau arni hyd at gael eich talu.
  • Recordiadau gweminar - yn cynnwys canllawiau a chyngor, diweddariadau am y farchnad a phynciau sy'n canolbwyntio ar y sector.

Cymorth pwrpasol

Gallwn hefyd weithio gyda chi ar sail un i un i'ch helpu i ddod o hyd i'r atebion i'r cwestiynau uchod a mwy.  Mae'r cymorth wedi'i deilwra'n arbennig i ddiwallu eich anghenion penodol a gall gynnwys y meysydd canlynol:

  • Strategaeth allforio
  • Dewis y farchnad
  • Diffinio eich llwybr i'r farchnad
  • Canllawiau ariannol
  • Gweithdrefnau, rheoliadau a logisteg allforio

Cysylltwch â’r Tîm


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.