Newyddion

Diwrnod Mentrau Cymdeithasol 2025

group of volunteers holding hands

Cynhelir Diwrnod Mentrau Cymdeithasol eleni ar 20 Tachwedd.

Mae'r diwrnod yn gyfle gwych i helpu i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o fentrau cymdeithasol yn ogystal â dathlu eich menter gymdeithasol a sut rydych chi'n gwneud gwahaniaeth yng Nghymru.

Mae adroddiad mapio cenedlaethol newydd a gyhoeddwyd gan Cwmpas a’r Grŵp Randdeiliaid Mentrau Cymdeithasol wedi datgelu bod sector mentrau cymdeithasol Cymru yn parhau i dyfu o ran cryfder, graddfa ac effaith, gyda dros 3,100 o fusnesau cymdeithasol bellach yn weithgar ledled y wlad, gan gyfrannu hyd at £5.7 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn ac yn darparu gwasanaethau hanfodol i bobl a chymunedau. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu menter gymdeithasol neu os hoffech ddysgu mwy, cysylltwch â Cwmpas neu edrychwch ar dudalennau Busnes Cymdeithasol Cymru ar wefan Busnes Cymru sy'n rhoi llawer o wybodaeth werthfawr am sefydlu a rhedeg menter gymdeithasol.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.