Newyddion

Yr Academi Gemau yn rhoi cymorth i helpu busnesau newydd o Gymru i gyrraedd marchnadoedd y byd

Hypertonic Games

Mae rhaglen gemau newydd wedi'i chynllunio i gyflymu twf cwmnïau gemau yng Nghymru wedi cael ei lansio. Mae wedi cael ei hariannu'n llawn gan Cymru Greadigol ac yn cael ei chyflwyno gan ganolfan dechnoleg Tramshed Tech – cwmni sydd wedi ennill gwobrau am eu gwaith.

Bydd Rhaglen yr Academi Gemau yn darparu cymorth busnes dwys i 12 cwmni gemau dros wyth mis, gan roi i gwmnïau'r sgiliau, y mentora a'r cysylltiadau sydd eu hangen arnyn nhw i adeiladu mentrau masnachol hyfyw sy'n barod i dderbyn buddsoddiadau.

Mae'r rhaglen yn cael ei chynnig i'r rhai a dderbyniodd gyllid yn y cylch diweddaraf o Gyllid Datblygu Cymru Greadigol, sydd eisoes wedi derbyn rhwng £25,000 a £50,000 i'w helpu i ddatblygu eu syniadau i'w cyhoeddi'n fasnachol. Nod Rhaglen yr Academi Gemau yw manteisio i'r eithaf ar y cyllid hwn drwy sicrhau ei fod yn cael ei gefnogi gan y cymorth a'r mentora gorau i'r diwydiant.

Mae pobl wedi derbyn cyllid ledled Cymru, gydag ymgeiswyr llwyddiannus mewn lleoliadau o Gaernarfon a Sir Benfro i Gaerdydd a Blaenau Gwent.

Mae dau gam i'r rhaglen. Mae'r cyntaf yn sbardun dwys deufis lle bydd sylfaenwyr yn profi, mireinio a dilysu eu syniadau busnes gemau drwy weithdai dan arweiniad arbenigwyr, sesiynau mentora a digwyddiad arddangos terfynol.

Mae'r ail gam yn darparu hyd at chwe mis o gymorth dilynol gan gynnwys mentora wedi'i bersonoli, cyfleoedd ar gyfer rhwydweithio a pharatoi ar gyfer digwyddiadau diwydiant rhyngwladol mawr fel Cynhadledd Datblygwyr Gemau yn San Francisco a Gamescom.

Mae'r rhaglen hefyd yn ceisio mynd i'r afael â'r bwlch sylweddol yn y cymorth sydd ar gael ar gyfer sylfaenwyr busnesau gemau. Bydd cyfranogwyr yn derbyn cymorth gyda modelu busnes, ymchwil i ddefnyddwyr, asesu'r farchnad, cynllunio refeniw a mireinio'r ffordd mae cynhyrchion yn cael eu cyflwyno, gyda'r holl sesiynau'n cael eu cyflwyno gan sylfaenwyr profiadol ac arbenigwyr maes.

Yn ôl y sôn, gwerth marchnad gemau'r DU oedd tua £7.82 biliwn yn 2023 a thua £352 biliwn yn fyd-eang.

Mae Cymru Greadigol wedi cefnogi 77 o gwmnïau digidol yn uniongyrchol, gan gynnwys ym meysydd gemau, animeiddio a stiwdios technoleg ymgolli.

Mae Tramshed Tech, a enwyd gan gylchgrawn Wired yn un o'r deg gofod cydweithio gorau yn y DU, wedi cefnogi dros 300 o fusnesau cychwynnol drwy eu huned fentrau.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Yr Academi Gemau yn rhoi cymorth i helpu busnesau newydd o Gymru i gyrraedd marchnadoedd y byd | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.