
Os ydych chi’n gweithio yn y cyfryngau neu'n gobeithio cael gwaith yno ac angen cymorth ariannol i ddatblygu eich sgiliau, gall Ymddiried helpu.
Maen nhw’n cynnig cefnogaeth ariannol i:
- unigolion er mwyn ehangu eu sgiliau – o’r cyfryngau traddodiadol, fel teledu, ffilm, radio, i’r cyfryngau digidol, fel podlediadau, realiti rhithwir a chynnwys i’w ffrydio (e.e. drwy YouTube)
- sefydliadau sy’n hybu datblygu sgiliau ac adnoddau addysgol ar gyfer y diwydiannau creadigol a mentrau cymunedol
Mae 'na dri dyddiad cau ar gyfer ceisiadau pob blwyddyn: 1af o Fawrth; 1af o Orffennaf; a'r 1af o Dachwedd.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Hafan - Ymddiried