Newyddion

Y Swyddfa Dywydd – Byddwch yn barod am y tywydd yr haf hwn gyda #WeatherReady

person wearing wellingtons

Wrth i ni symud tuag at fisoedd yr haf, mae pobl yn dechrau meddwl am awyr las heulog, a chynllunio teithiau a gwyliau haf. Gall tywydd yr haf fod yr un mor effeithiol â thywydd y gaeaf, gan ddod â chyfnodau hir o wres, a stormydd a glawiad haf effeithiol.

Mae ymgyrch WeatherReady y Swyddfa Dywydd yn darparu cyngor cynhwysfawr gan amrywiaeth o sefydliadau partner arbenigol, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), er mwyn helpu pobl i baratoi ar gyfer y tywydd ac ymateb iddo, fel eu bod nid yn unig yn aros yn ddiogel, ond yn gallu manteisio arno i’r eithaf. 

O ran glaw trwm, yn enwedig pan fo’r tir yn sych iawn ac yn methu â’i amsugno, gall llifogydd a dŵr sy’n llifo achosi difrod i eiddo neu fusnesau, yn ogystal â chreu amodau teithio anodd. Mae’n bwysig cadw llygad ar y rhagolygon a gweithredu pan ragwelir glaw trwm. Gallai hyn, yn syml, olygu gwirio bod cwteri a draeniau’n glir, neu ddilyn cyngor CNC ar wirio eich risg llifogydd a pharatoi pecyn llifogydd i’ch helpu i ymdopi pe bai llifogydd yn eich cartref a’ch busnes. 

Mae ystod eang o erthyglau cyngor, gan gynnwys awgrymiadau a chyngor gorau ar baratoi ar gyfer llifogydd, a grëwyd mewn cydweithrediad â CNC, ar gael ar wefan y Swyddfa Dywydd, gyda chanllawiau sy’n cynnwys sut i baratoi cynlluniau llifogydd, cofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd, a beth i beidio â’i wneud wrth wynebu llifogydd mewn cerbyd.

Darllenwch ein post newyddion am Gweithio pan fo hi’n boeth a Paratoi eich busnes ar gyfer llifogydd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.