Newyddion

Gweithio pan fo hi’n boeth

Thermometer

Mae’r tymheredd yn uchel ar draws y wlad, ac mae’n rhaid i gyflogwyr sicrhau eu bod yn diogelu eu gweithwyr yn ystod tywydd poeth.

Nid oes cyfraith sy’n pennu uchafswm tymheredd wrth weithio, nac i ddweud pryd y bydd hi’n rhy boeth i weithio, a hynny oherwydd bod pob gweithle yn wahanol.

Mae gan wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ganllaw ymarferol ar dymheredd yn y gweithle.

Mae’n cynnwys canllawiau ar y canlynol:

  • beth mae'r gyfraith yn ei ddweud
  • rheoli tymheredd y gweithle
  • atal straen gwres
  • amddiffyn y rhai sy'n gweithio y tu allan

Mae’r Awdurdod hefyd yn darparu rhestr wirio ar gyfer tymheredd y gweithle i'ch helpu i gynnal asesiad risg sylfaenol.

Darllenwch holl ganllawiau tymheredd yr Awdurdod ar eu gwefan.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.