Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl rhwng 11 Mai a’r 17 Mai.
Thema'r ymgyrch eleni yw 'Gweithredu', gan alw ar bobl i weithredu i gefnogi iechyd meddwl da. Mae codi ymwybyddiaeth yn hanfodol, ond daw newid go iawn pan fyddwn ni’n gweithredu hefyd.
Gall hyd yn oed gweithredoedd bach ein helpu i deimlo'n obeithiol ac yn llai diymadferth.
Mae sawl ffordd o gymryd rhan:
- Gallwch lawrlwytho adnoddau a rhoi cynnig ar awgrymiadau i hybu eich lles meddyliol.
- Ymunwch â'r gymuned ar y cyfryngau cymdeithasol a dywedwch wrth y Sefydliad Iechyd Meddwl beth mae iechyd meddwl da yn ei olygu i chi.
- Helpwch i droi'r wlad yn wyrdd ar Ddiwrnod Gwisgo Gwyrdd.
- Dewch yn gefnogwr yn y gweithle neu'n bartner gyda'r Sefydliad Iechyd Meddwl.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Mental Health Awareness Week | Mental Health Foundation.