Newyddion

Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth o Straen 2026

Online webinar

Cynhelir Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth o Straen eleni rhwng 2 Tachwedd a 6 Tachwedd.

Mae'r wythnos yn tynnu sylw cenedlaethol a rhyngwladol at bwysigrwydd lleihau straen a gwella lles meddyliol ar draws gweithleoedd a chymunedau. Trwy gyfres o ymgyrchoedd, digwyddiadau a gweithgareddau arweinyddiaeth meddwl, mae'r wythnos yn annog cyflogwyr i flaenoriaethu lles a chryfhau eu dull o reoli straen.

Y thema ar gyfer 2026 yw "Llunio Dyfodol Straen a Lles: Ailddyneiddio'r Gweithle."

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: International Stress Awareness Week | ISMA Stress Management Association.

P'un a ydych chi'n fusnes bach neu'n gorfforaeth fawr, mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyflogwr atal straen sy'n gysylltiedig â gwaith er mwyn cefnogi iechyd meddwl da yn y gweithle. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Working Minds - Work Right.

Ydych chi'n siarad am iechyd meddwl yn y gweithle? - Mae’n bwysicach nag erioed i roi sylw i iechyd meddwl yn y gweithle. Nid yw straen yn broblem iechyd meddwl ond gall amlygiad hirdymor i straen na ellir ei reoli achosi problemau iechyd meddwl neu waethygu problemau sy’n bod eisoes: Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.