Newyddion

Wythnos Lleoliadau Annibynnol 2026

Musicians performing at a concert

Mae Wythnos Lleoliadau Annibynnol, a gynhelir rhwng 26 Ionawr a 1 Chwefror 2026, yn wythnos flynyddol o ddathlu lleoliadau annibynnol yn y Deyrnas Unedig (DU) ar gyfer cynnal digwyddiadau cerddorol a chelfyddydol, a’r bobl sy’n berchen arnynt, yn eu rhedeg ac yn gweithio ynddynt.

Mae dros 200 o leoliadau annibynnol yn cymryd rhan yn y dathliad blynyddol ac mae’r nifer yn cynyddu bob blwyddyn. Ym mhob rhan o’r DU, ceir lleoliad annibynnol gerllaw sy’n barod i’ch croesawu.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: IVW - Independent Venue Week.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.