Mae tocynnau nawr ar werth ar gyfer Uwchgynhadledd Cadwyn Gyflenwi HyNet 2026 ddydd Mercher 15 Gorffennaf 2026 yn Wrecsam.
Yn cynnwys Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr, HyNet yw'r clwstwr datgarboneiddio diwydiannol mwyaf datblygedig yn y wlad. Mae tri phrosiect, gwerth ymhell dros £3 biliwn i gyd, yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, gyda mwy yn symud ymlaen at gael eu cyflawni bob dydd.
Bydd yr Uwchgynhadledd yn tynnu sylw at Safle Dal a Storio Carbon Padeswood Heidelberg Materials a Safle Dal a Storio Carbon trwy Gyfleuster Adennill Ynni Protos a weithredir gan Encyclis Mae'r ddau brosiect hyn yn cael eu cyflawni ar hyn o bryd, gan baratoi'r ffordd ar gyfer y rhai sy'n dilyn.
Bydd cyflwyniadau'n cynnwys gwybodaeth am y prosiectau, gyda digon o amser ar gyfer rhwydweithio rhwng sesiynau yn yr ardal arddangos gyda chleientiaid a'u contractwyr Haen 1.
Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Wrecsam diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, Uchelgais Gogledd Cymru ac Awdurdod Pontio Môr y Gogledd (North Sea Transition Authority).
Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: HyNet Supply Chain Summit 2026 Tickets, Wednesday, July 15 • 9 AM - 4:30 PM | Eventbrite.
Mae GwerthwchiGymru yn ffynhonnell wybodaeth ac yn borth caffael i helpu busnesau i ennill contractau sector cyhoeddus ar draws Cymru ac i helpu prynwyr yn y sector cyhoeddus i hysbysebu a rheoli cyfleoedd tendro. Dysgwch fwy yma: GwerthwchiGymru