
Mae gwahoddiad i fusnesau ledled Cymru fynychu cyfres o sioeau teithiol wedi eu hariannu’n llawn. Y nod yw helpu cyflenwyr a darpar gyflenwyr i ganfod contractau yn y sector cyhoeddus, bidio amdanynt, a’u hennill, gan ddysgu am y newidiadau pwysig yn y rheoliadau caffael.
Bydd Sioeau Teithiol Busnes Cymru, wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cael eu cynnal mewn chwe lleoliad trwy fis Mai a Mehefin 2025. Mae’r digwyddiadau hyn yn arbennig o berthnasol i fusnesau sy’n gweithio yn y sectorau adeiladu, tai, twristiaeth, iechyd a gofal cymdeithasol, trafnidiaeth, bwyd a diod, manwerthu, cyfleustodau ac ynni.
Gyda chyflwyniad y Ddeddf Caffael Cyhoeddus 2023 a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael (Cymru) 2023, gall busnesau ddisgwyl proses fwy syml, mwy hyblyg, a mwy eglur i sicrhau contractau cyhoeddus.
Gall mynychwyr y sioeau teithiol ddisgwyl:
- Cipolygon Arbenigol
- Arddangosiadau Byw
- Cwrdd â’r Prynwr
- Rhwydweithio
Mae'r holl ddigwyddiadau'n cael eu cynnal o 9.30yb tan 12.30yp, dyddiadau a lleoedd isod:
- 22 Mai – Prif Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor
- 4 Mehefin – Y Metropole, Llandrindod
- 5 Mehefin – Prifysgol Wrecsam, Wrecsam
- 10 Mehefin – Yr Ystafell Weithredol, Prifysgol Caerdydd
- 18 Mehefin – Y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth
- 19 Mehefin – Gwesty Village Abertawe, Abertawe
P’un a ydych yn gyflenwr profiadol neu’n newydd i waith y sector cyhoeddus, bydd y digwyddiadau hyn yn eich helpu i aros ar y blaen a rhoi eich busnes mewn lle da i lewyrchu dan y sefyllfa gaffael newydd. Nifer penodol o leoedd sydd ar gael felly sicrhewch eich lle heddiw.