
Mae rhaglen cymorth busnes llwyddiannus Llywodraeth Cymru wedi rhoi hwb o fwy na £60 miliwn i refeniw'r busnesau sy'n cymryd rhan drwy allforio, gyda 15 o gwmnïau eraill bellach wedi'u dewis i gyflymu eu potensial allforio a thyfu ymhellach drwy fasnach ryngwladol.
Bob blwyddyn, mae'r Rhaglen Allforwyr Newydd yn darparu cymorth pwrpasol i garfan o fusnesau bach a chanolig o bob cwr o Gymru sydd wedi'i gynllunio i gynyddu eu potensial allforio drwy ymgorffori allforion fel agwedd graidd ar eu strategaeth twf busnes gyffredinol.
Mae'r rhaglen, sy'n rhan greiddiol o Gynllun Gweithredu Allforio Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru, yn cynnig cymorth wedi'i deilwra sy'n canolbwyntio ar sgiliau allforio hanfodol fel mireinio cynnyrch, marchnata rhyngwladol, cyflwyno allforion, prosesau gwerthu tramor a datblygu strategaethau allforio ochr yn ochr ag ymweliad â'r farchnad yn yr Iseldiroedd i gwrdd â phartneriaid busnes a chwsmeriaid posibl yn bersonol.
Mae cyfranogwyr yn nhair blwyddyn gyntaf y Rhaglen Allforwyr Newydd wedi gweld eu teithiau allforio yn cyflymu a refeniw yn cynyddu i gyfanswm o £62 miliwn.
Cymerodd y gwneuthurwr arobryn o Ogledd Cymru Limb-art ran yn y Rhaglen Allforwyr Newydd. Mae'n dylunio ac yn cynhyrchu gorchuddion coesau prosthetig addurniadol o ansawdd uchel ar gyfer y rhai sydd wedi colli eu haelodau isaf ac mae bellach yn allforio i farchnadoedd allweddol ledled y byd.
Mae Limb-art yn disgwyl cynhyrchu mwy na £500,000 mewn refeniw allforion dros y tair i bum mlynedd nesaf, gydag allforion yn cyfrif am 50% o'i werthiannau dros yr un cyfnod. Mae cynlluniau i greu tair swydd newydd o ganlyniad i hyn.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Rhaglen allforion yn cynyddu refeniw busnes o £60 miliwn | LLYW.CYMRU ac Rhaglen Allforiwr Newydd | Drupal