Mae £2.5 miliwn arall o gyllid Llywodraeth Cymru wedi'i gyhoeddi ar gyfer y diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Bydd y cyllid yn darparu buddsoddiad ychwanegol i'r sector ffilm a theledu. Bydd y sector cyhoeddi hefyd yn derbyn cymorth i ymateb i heriau parhaus a chefnogi gwaith cynhyrchu refeniw.
Ar hyn o bryd mae dros 3,500 o fusnesau yn gweithredu yn y sectorau creadigol a gefnogir gan Cymru Greadigol, gan gyflogi dros 35,000 o bobl. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod y sector wedi cynhyrchu trosiant blynyddol o £1.5 biliwn yn 2023, sy’n gynnydd o fwy na 10 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Mae'r cyllid diweddaraf hwn yn dilyn £2 miliwn o fuddsoddiad pellach gan Lywodraeth Cymru i Bad Wolf i gynhyrchu dau gynhyrchiad teledu newydd o'r radd flaenaf a fydd yn arwain at wariant o £30 miliwn yn economi Cymru.
Mae'n mynd â buddsoddiad cynhyrchu Llywodraeth Cymru i £33.8 miliwn ar draws 70 o brosiectau ers lansio Cymru Greadigol, gan gynhyrchu £419.7 milwin i economi Cymru.
Tynnwyd sylw at ddiwydiannau creadigol Cymru yn Uwchgynhadledd Fuddsoddi Cymru a oedd yn hynod lwyddiannus. Meithrin y diwydiannau creadigol hyn oedd thema Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a gynhaliwyd ar ddydd Gwener.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: £2.5m ychwanegol ar gyfer y sector creadigol yng Nghymru | LLYW.CYMRU.