Bydd saith prosiect arfordirol cymunedol ledled Cymru yn derbyn rhan o fwy na hanner miliwn o bunnoedd i wella amgylcheddau morol, cryfhau economïau lleol ac adeiladu gwydnwch hirdymor ar gyfer cymunedau arfordirol a'n diwydiant pysgota.
- Saith prosiect ar draws chwe ardal awdurdod lleol yn derbyn cyfran o £540,761
- Cyllid yn cefnogi adfer wystrys, monitro morol, gwelliannau harbwr a datblygu llwybrau bwyd môr
- Y cynllun wedi'i gyflwyno drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru
Mae'r prosiectau – sy'n rhychwantu Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir y Fflint, Gwynedd ac Ynys Môn – yn amrywio o sefydlu pwll silio wystrys brodorol pwrpasol yn Nhalacharn i raglen arsyllfa forol newydd a arweinir gan y gymuned ar draws y Fenai.
Mae'r cyllid yn cefnogi gwaith sy'n cynnwys monitro gwyddoniaeth dinasyddion ym Mae Ceredigion, llwybr bwyd môr cynaliadwy yng Nghonwy, gwelliannau diogelwch harbwr yng Nghei Connah a Phorthladd Amlwch, a monitro mamaliaid morol yn well yng Ngwynedd o dan fenter Clust i'r Môr.
Darllenwch y datganiad llawn drwy fynd i’r ddolen ganlynol: Prosiectau arfordirol yng Nghymru i adfer moroedd a chryfhau cymunedau | LLYW.CYMRU