Newyddion

Prentis o Gymru yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth sgiliau fyd-eang

The Deputy Minister for Skills and Tertiary Education, Cefin Campbell and  Madeleine Warburton.

Mae gwersyll hyfforddi sgiliau yn cael ei gynnal yng Ngholeg Sir Gâr ar hyn o bryd i baratoi prentisiaid ar gyfer cystadleuaeth WorldSkills yn Shanghai ym mis Medi.

Mae’r gwersyll hyfforddi yn rhan o raglen baratoi ddwys WorldSkills UK ar gyfer y gystadleuaeth, lle bydd chwe chystadleuydd yn cynrychioli Cymru ar Dîm y DU. Mae Madeleine Warburton, un o’r aelodau a ddewiswyd, yn cwblhau prentisiaeth Lefel 4 mewn ynni adnewyddadwy ar hyn o bryd.

Mae prentisiaethau yng Nghymru yn cynnig cyfle i unigolion ennill profiad ymarferol gwerthfawr wrth weithio tuag at gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.

Mae prentisiaethau hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi economi Cymru, gan helpu i fynd i’r afael â bylchau sgiliau mewn sectorau â blaenoriaeth a sicrhau bod gan gyflogwyr fynediad at weithlu medrus ar gyfer y dyfodol.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Prentis o Gymru yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth sgiliau fyd-eang | LLYW.CYMRU.

Gall recriwtio prentis eich helpu i ehangu eich gweithlu a'i sylfaen sgiliau. Am gymorth a chefnogaeth, ewch i Recriwtio a Hyfforddi | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.