Newyddion

O'r fferm i'r fforc: Cymru'n cyhoeddi cynllun i drawsnewid bwyd y genedl

First Minister Rhun ap Iorwerth and Llyr Gruffydd MS  Cabinet Minister for Rural Resilience and Sustainability of Wales.

Mae Cymru ar fin trawsnewid y ffordd y mae'n meddwl am fwyd, gyda chyhoeddi Strategaeth Fwyd Genedlaethol i Gymru a phenodi Cadeirydd a grŵp arbenigol arfaethedig i lywio'r gwaith o ddatblygu'r strategaeth.

Gwnaeth y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd y cyhoeddiad Heddiw, 21 Gorffennaf 2026, yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, gan nodi cynlluniau ar gyfer dull trawsnewidiol system gyfan o gysylltu polisïau bwyd, sy'n cwmpasu cynhyrchu, prosesu, manwerthu yn ogystal â sut mae'r bwyd rydyn ni'n ei gynhyrchu yn berthnasol i faterion iechyd, addysg, caffael cyhoeddus a'r economi gylchol. 

Mae Simon Wright, sydd â dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector lletygarwch yng Nghymru, wedi'i benodi i gadeirio'r Gweithgor Arbenigol a fydd yn cynghori Llywodraeth Cymru ar ddatblygu'r strategaeth. Ef yw perchennog Wright's Food Emporium yn Llanarthne, ac mae'n arbenigwr ar fwyd a systemau bwyd. Bydd yn arwain sgyrsiau â chynhyrchwyr, busnesau a chymunedau ledled Cymru.

Mae cadwyn gyflenwi bwyd a diod Cymru yn werth dros £28 biliwn ac mae'n cyflogi un o bob chwech o weithwyr ar draws y wlad.

I ddarllen y datganiad llawn dewisiwch y ddolen ganlynol: O'r fferm i'r fforc: Cymru'n cyhoeddi cynllun i drawsnewid bwyd y genedl | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.