Newyddion

Llywodraeth Cymru yn ymestyn cyllid ar gyfer adeiladu capasiti arfordirol

Beach clean - people collecting rubbish from a beach

Bydd cymunedau arfordirol ledled Cymru yn derbyn cefnogaeth barhaus wrth i Lywodraeth Cymru ymestyn ei Chynllun Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol am ddwy flynedd arall.

Bydd y cynllun, a ddarperir drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), yn darparu £260,000 y flwyddyn rhwng 2025/26 a 2026/27 i gefnogi mentrau amgylcheddol lleol.

Ers ei lansio ym mis Hydref 2023, mae'r cynllun wedi cefnogi un ar ddeg o brosiectau sy'n helpu pobl i gysylltu â'u hamgylchedd arfordirol a deall sut y gallant gael effaith gadarnhaol ar natur.

Mae prosiectau wedi canolbwyntio ar gryfhau partneriaethau rhwng cymunedau, busnesau, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill i gyflawni gweithredu cynaliadwy mewn ardaloedd morol ac arfordirol.

Bydd y cyllid estynedig yn canolbwyntio ar bysgodfeydd ac yn sicrhau bod gan gymunedau y gallu, y sgiliau a'r dystiolaeth i gefnogi'r gwaith o gyflawni mentrau adfer natur a thwf cynaliadwy mewn ardaloedd arfordirol yn y dyfodol.

Mae ceisiadau am gyllid yn parhau i fod ar agor i unrhyw bartneriaid newydd neu bresennol sydd â diddordeb mewn cefnogi cymunedau arfordirol. Dylai sefydliadau sydd â diddordeb gysylltu â'u Cydlynydd Partneriaeth Natur Lleol, a fydd yn gweithredu fel y prif ymgeisydd.

I gael rhagor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen ganlynol Cronfa Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol - WCVA neu anfonwch e-bost at lnpcymru@wcva.cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.