Newyddion

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r Gyllideb Derfynol

£20 notes

Bydd Cyllideb Derfynol 2026-27 yn darparu £1.2 biliwn yn fwy ar gyfer pobl, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau ar draws Cymru nag yn y flwyddyn ariannol hon.

Mae dyraniadau allweddol yn cynnwys:

  • £112.8 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol, a phob cyngor yn cael cynnydd o 4% neu fwy.
  • £180 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol, gan ddod â chyfanswm y gyllideb refeniw i fwy na £12.6 biliwn.
  • £116 miliwn o becyn cymorth i fusnesau dros ddwy flynedd i helpu gydag effaith yr ymarfer i ailbrisio ardrethi annomestig yn 2026.

Cynhelir y ddadl a'r bleidlais ar y Gyllideb Derfynol yn y Senedd ar 27 Ionawr 2026.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r Gyllideb Derfynol | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.