Newyddion

Gwobrau'r Brenin ar gyfer Menter 2027

small business owner

Mae Gwobrau'r Brenin ar gyfer Menter yn cael eu cyflwyno ar gyfer cyflawniad rhagorol gan fusnesau'r DU yn y categorïau canlynol:

  • sylfaenydd ifanc
  • arloesedd
  • masnach ryngwladol
  • datblygu cynaliadwy
  • hyrwyddo cyfleoedd drwy symudedd cymdeithasol

Os byddwch chi'n ennill, byddwch chi’n:

  • cael eich gwahodd i dderbyniad Brenhinol
  • derbyn y wobr yn eich cwmni gan un o gynrychiolwyr y Brenin, sef Arglwydd Raglaw
  • gallu chwifio baner Gwobrau'r Brenin yn eich prif swyddfa, a defnyddio'r arwyddlun ar eich deunyddiau marchnata (er enghraifft ar eich deunydd pacio, hysbysebion, deunydd ysgrifennu a gwefan)
  • derbyn Grant Penodi (tystysgrif swyddogol) a thlws coffaol. 

Mae'r gwobrau'n ddilys am 5 mlynedd.

Mae sefydliadau a dderbyniodd wobr wedi dweud eu bod wedi elwa o:

  • gydnabyddiaeth fyd-eang
  • mwy o werth masnachol 
  • mynediad at farchnadoedd allforio ehangach
  • mwy o sylw yn y wasg 
  • hwb i ysbryd staff

Gallwch nawr wneud cais am wobrau 2027 tan ddydd Mawrth 8 Medi 2026.

I gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen ganlynol:  The King's Awards for Enterprise: About the awards - GOV.UK.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.