Newyddion

Gwobrau Made in Wales 2025

Welsh flag

Bydd Gwobrau Made in Wales Insider yn dathlu cynhyrchion gwych, arloesiadau, llwyddiant busnes a ffyrdd o weithio gan gwmnïau o bob maint ar draws diwydiant gweithgynhyrchu Cymru.

Cynhelir y cinio gwobrwyo yng Ngwesty'r Mercure Holland House yng Nghaerdydd ddydd Iau 23 Hydref. Yn y digwyddiad hwn, sydd bellach yn ei 15fed flwyddyn, bydd enillwyr y gwobrau yn y categorïau canlynol yn cael eu datgelu:

  • Gwobr Arloesi wrth Weithgynhyrchu
  • Gwobr Meddygaeth, Gwyddorau Bywyd a Gofal Iechyd
  • Gwobr Gwneuthurwr Cynaliadwy / Moesegol
  • Gwobr Prentis y Flwyddyn
  • Gwobr Talent Gweithgynhyrchu y Dyfodol
  • Gwobr Technoleg Ddigidol
  • Gwobr Allforio
  • Gwobr Busnes Gweithgynhyrchu Newydd
  • Gwobr Bwyd a Diod
  • Gweithgynhyrchwr y Flwyddyn (o dan £25 miliwn)
  • Gweithgynhyrchwr y Flwyddyn (dros £25 miliwn)

Anogir cwmnïau o bob maint i gymryd rhan.

Gellir gwneud cais am y gwobrau am ddim. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 24 Gorffennaf 2025.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Insider Made in Wales Awards 2025


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.