Os ydych chi wedi bod yn hyrwyddo cyflog teg, gallech fod yn deilwng o wobr Hyrwyddwr Cyflog Byw!
Os ydych chi wedi bod yn lledaenu'r gair am y Cyflog Byw Gwirioneddol, am Oriau Byw, am Bensiynau Byw, neu am Gyflog Byw Byd-eang – dyma ddigwyddiad sydd eisiau eich dathlu chi!
Dyma’r categorïau ar gyfer 2026:
- Hyrwyddwr Cyflog Byw y Flwyddyn
- Hyrwyddwr Lleol
- Hyrwyddwr Darparwr Gwasanaeth Cydnabyddedig
- Hyrwyddwr Oriau Byw
- Hyrwyddwr Pensiwn Byw
- Y Trydydd Sector – Gwobr Arweinydd Cyflog Byw
- Sefydliad Mawr – Gwobr Arweinydd Cyflog Byw
- Sefydliad BBaCh – Gwobr Arweinydd Cyflog Byw
- Sector Cyhoeddus – Gwobr Arweinydd Cyflog Byw
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 27 Mawrth 2026.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Living Wage Champion Awards 2026 | Living Wage Foundation.
Mae Llywodraeth Cymru yn annog pob cyflogwr sy’n gallu fforddio gwneud i sicrhau bod eu gweithwyr yn cael cyfradd cyflog fesul awr sy’n adlewyrchu costau byw, nid dim ond yr isafswm statudol. Gallwch ddysgu mwy trwy ddilyn y ddolen ganlynol Cyflog Byw i Gymru – Ar gyfer Gwir Gostau Byw.
Mae’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn wirfoddol ac yn cael ei gyfrifo’n annibynnol ar sail yr hyn sydd ei angen ar bobl er mwyn byw. Mae’n uwch na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol.
Beth am ymweld â thudalennau Busnes Cyfrifol Busnes Cymru i ddysgu sut y gall bod yn fusnes cyfrifol fod o fudd i'ch staff a chael effaith gadarnhaol ar eich busnes.