Mae Small Business Britain wedi cyhoeddi tri gweminar deallusrwydd artiffisial am ddim ym mis Awst a mis Medi, gyda chefnogaeth BT.
Yn ôl i'r Ysgol gyda Deallusrwydd Artiffisial – Atebion i'ch Cwestiynau:
- 27 Awst 2026, 10am i 11am: Ailedrych ar sut rydych chi'n defnyddio deallusrwydd artiffisial yn eich busnes, a chael atebion i'ch cwestiynau yn fyw.
AI in Your Business - Curious to Confident (cyfres dwy ran):
- Rhan 1, 3 Medi 2026, 10am i 11am: Darganfyddwch ble gall deallusrwydd artiffisial gael yr effaith fwyaf yn eich busnes, a nodwch gyfleoedd ymarferol i arbed amser, lleihau eich llwyth gwaith, a gweithio'n fwy effeithlon.
- Rhan 2, 10 Medi 2026, 10am i 11am: Dysgwch sut i droi'ch syniadau deallusrwydd artiffisial yn systemau ymarferol - adeiladu llifoedd gwaith sy’n arbed amser, creu templedi y gellir eu hailddefnyddio, a chysylltu eich offer deallusrwydd artiffisial er mwyn symleiddio tasgau bob dydd.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: AI Webinars: Sign Up Now!
Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am ddeallusrwydd artiffisial? Mae Busnes Cymru yn cynnal amrywiaeth o weminarau a digwyddiadau, dewiswch y ddolen ganlynol Digwyddiadur Busnes Cymru, chwiliwch i gofrestru a darganfod mwy.