Ymunwch â miliynau o bobl sy'n lleihau eu gwastraff plastig.
Mae Gorffennaf Di-blastig yn fudiad byd-eang sy'n helpu miliynau o bobl i fod yn rhan o'r ateb i lygredd plastig.
Mae Gorffennaf Di-blastig yn darparu adnoddau a syniadau i'ch helpu chi (a miliynau o bobl eraill ledled y byd) i leihau gwastraff plastig untro bob dydd yn y cartref, yn y gwaith, yn yr ysgol, a hyd yn oed yn eich caffi lleol.
Eisiau awgrymiadau sut y gallwch chi leihau gwastraff plastig? Y newyddion da yw y gall unrhyw un gymryd rhan. Gallwch chi ddechrau'n fach neu herio’ch hun go iawn!
Beth am gael eich ysbrydoli drwy ddefnyddio'r opsiynau isod:
- Sut i ddechrau menter di-blastig yn y gwaith
- Lleihau Plastigau a Phecynnu ar gyfer Busnesau
- 8 Cam Hawdd ar gyfer Lleihau Gwastraff Plastig mewn Bwytai a Chaffis
- Beth allwch chi ei wneud - Arwyddion Busnes - Gorffennaf Di-blastig
Ar 3 Gorffennaf bydd hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol Dim Bagiau Plastig, a’r nod yw gwella ymwybyddiaeth pobl o effeithiau niweidiol bagiau plastig untro ar yr amgylchedd. Mae'r ymgyrch yn annog pobl, busnesau a llywodraethau i ddewis opsiynau amgen ac ecogyfeillgar er mwyn lleihau llygredd plastig.
Mae'r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a'r llefydd o'u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy'n helpu Cymru i drawsnewid i ddyfodol carbon isel. Cofrestrwch yn Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru.
Mae nifer o blastigau untro wedi cael eu gwahardd rhag cael eu cyflenwi yng Nghymru, darllenwch y canllawiau ar Llyw.Cymru.