Mae'r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yn cynyddu ffioedd ar gyfer patentau, nodau masnach a dyluniadau o 1 Ebrill 2026, yn amodol ar gymeradwyaeth seneddol.
Nid yw ffioedd yr IPO wedi cynyddu ers 2018 ar gyfer patentau, 2016 ar gyfer dyluniadau ac 1998 ar gyfer nodau masnach.
Bydd ffioedd yn cynyddu 25% ar gyfartaledd. Er enghraifft, mae chwiliad patent yn mynd i fyny o £150 i £200 a chais am nod masnach o £170 i £205.
Mae'r IPO wedi diweddaru eu gwybodaeth sut i dalu ar eu gwefan gan gynnwys y telerau ac amodau ar gyfer deiliaid cyfrifon blaendal.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Ffioedd y Swyddfa Eiddo Deallusol i gynyddu o fis Ebrill 2026.