Bydd Dydd Miwsig Cymru yn digwydd ar 13 Chwefror 2026.
P’un a ydych chi’n hoffi miwsig indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop neu unrhyw beth arall, mae miwsig anhygoel yn cael ei greu yn y Gymraeg i chi ei ddarganfod. Mae’r diwrnod yn dathlu pob math o fiwsig Cymraeg.
Os bydd dy fusnes yn dathlu o'r gweithle neu o gartref, mae nifer o ffyrdd i gymryd rhan.
Sut gall dy fusnes gymryd rhan yn Dydd Miwsig Cymru?
- Gwna addewid i chwarae miwsig Cymraeg yn y swyddfa, mewn canghennau, yn y siop neu'r caffi ar y diwrnod neu drwy gydol y flwyddyn.
- Cynhalia gig gydag artist Gymraeg yn eich lle busnes.
- Newidia lun proffil / baner dy gyfryngau cymdeithasol i frand Dydd Miwsig.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i:
Mae llawer o resymau da i chi i ddefnyddio'r Gymraeg yn eich busnes, ewch i'r tudalennau Helo Blod i gael gwybod mwy.